Delweddiaeth

Casglodd y bardd Americanaidd alltud Ezra Pound (ffotograff o 1913) 11 o feirdd yn y flodeugerdd gyntaf o farddoniaeth Ddelweddaidd, Des Imagistes (1914).

Mudiad ym marddoniaeth Unol Daleithiau America a Lloegr yn nechrau'r 20g oedd Delweddiaeth neu Imagistiaeth[1] a oedd yn ffafrio delweddaeth fanwl ac iaith eglur, graff. Ystyrir mai dyma'r mudiad llenyddol modernaidd cyfundrefnol cyntaf yn yr iaith Saesneg.[2] Weithiau gwelir Delweddiaeth fel "cyfres o adegau creadigol" yn hytrach na chyfnod di-dor neu ddatblygiad cyson o dueddiadau llenyddol. Meddai'r academydd Ffrengig René Taupin, "mae'n gywirach ystyried Delweddiaeth nid fel athrawiaeth, nac hyd yn oed fel ysgol farddol, ond fel cymdeithas o ychydig o feirdd a fu am gyfnod penodol yn cytuno ar nifer fach o egwyddorion pwysig".[3]

Gwrthododd y Delweddwyr y farddoniaeth deimladwy a gwasgarog a oedd yn nodweddiadol o Ramantiaeth ac Oes Fictoria. Yn wahanol i'w cyfoedion "Sioraidd"⁠—y criw o feirdd a flodeuai yn Lloegr yn y 1910au⁠—a oedd yn fodlon ar y cyfan i weithio o fewn yr hen draddodiad, galwodd y Delweddwyr am ddychwelyd at werthoedd Clasuriaeth, megis uniondeb y cyflwyniad, cynildeb iaith, a pharodrwydd i arbrofi â ffurfiau mydryddol anhraddodiadol, sef canu rhydd. Nodwedd briod o'r ffurf yw ei hymgais i ynysu un ddelwedd er mwyn datgelu ei hanfod. Mae hyn yn adlewyrchu datblygiadau cyfoes mewn celf yr avant-garde, yn enwedig Ciwbiaeth. Er bod y beirdd Delweddaidd yn ynysu gwrthrychau trwy ddefnyddio'r hyn a alwai'r bardd Americanaidd Ezra Pound yn "fanylion goleuol", mae dull ideogramaidd Pound o gyfosod enghreifftiau diriaethol i fynegi haniaeth yn debyg i ddull Ciwbiaeth o syntheseiddio safbwyntiau lluosog yn un ddelwedd.[4]

Cyhoeddwyd sawl cylchgrawn a blodeugerdd Ddelweddaidd rhwng 1914 a 1917 yn cynnwys gweithiau gan nifer o awduron blaena'r mudiad modernaidd, yn eu plith Ezra Pound, H.D. (Hilda Doolittle), Amy Lowell, Ford Madox Ford, William Carlos Williams, F. S. Flint, a T. E. Hulme. Llundain oedd canolfan y Delweddwyr, ac yno bu aelodau o Brydain Fawr, Iwerddon a'r Unol Daleithiau yn gweithio ac yn cymdeithasu gyda'i gilydd. Yn anarferol iawn ar y pryd, roedd nifer o awduron benywaidd yn ffigurau o bwys ym mudiad Delweddiaeth.

  1. Geiriadur yr Academi, "imagism".
  2. T.S. Eliot: "The point de repère, usually and conveniently taken as the starting-point of modern poetry, is the group denominated 'imagists' in London about 1910." Lecture, Washington University, St. Louis, June 6, 1953.
  3. Taupin, René (1929). L'Influence du symbolism francais sur la poesie Americaine (de 1910 a 1920). Paris: Champion. Translation (1985) by William Pratt and Anne Rich. New York: AMS.
  4. Davidson (1997), pp. 11–13

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search