Dhaka

Dhaka
Mathmega-ddinas, dinas, metropolis, canolfan ariannol, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
LL-Q9610 (ben)-Titodutta-ঢাকা.wav, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Dacca.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth16,800,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1608 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAtiqul Islam Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+06:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKolkata, Guangzhou Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Bengaleg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhanbarth Dhaka Edit this on Wikidata
GwladBaner Bangladesh Bangladesh
Arwynebedd368 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr60 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau23.7289°N 90.3944°E Edit this on Wikidata
Cod post1000, 1100, 1200–1299, 1300–1399 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAtiqul Islam Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Bangladesh yw Dhaka (cyn 1982, Dacca; Bengaleg ঢাকা) ac mae gan Dhaka Fwyaf boblogaeth o tua 16,800,000 (2017). Lleolir y ddinas yn ne-ddwyrain y wlad, ar lannau Afon Burhi Ganga. Dhaka yw canolfan economaidd, wleidyddol a diwylliannol Bangladesh, ac mae'n un o brif ddinasoedd De Asia, y ddinas fwyaf yn Nwyrain De Asia ac ymhlith gwledydd Bae Bengal ac mae hefyd yn un o'r dinasoedd mwyaf ymhlith gwledydd OIC. Fel rhan o wastadedd Bengal, mae'r ddinas wedi'i ffinio ag Afon Buriganga, Afon Turag, Afon Dhaleshwari ac Afon Shitalakshya. Sefydlwyd y brifysgol yn 1921.

Mae gan Dhaka hanes hir, ond nid oedd yn dref o bwys tan y 17g pan gafodd ei gwneud yn brifddinas talaith Bengal yn Ymerodraeth y Mwgaliaid. Yn y ganrif dilynol, daeth dan reolaeth Prydain. Pan gyhoeddwyd annibyniaeth (fel Dwyrain Pacistan) yn 1947, cafodd ei gwneud yn brifddinas y wlad newydd.

Y borth, Dhaka

Mae pobl wedi byw yn ardal Dhaka ers y mileniwm cyntaf. Cododd y ddinas i amlygrwydd yn yr 17g fel prifddinas daleithiol a chanolfan fasnachol Ymerodraeth Mughal. Dhaka oedd prifddinas y Mughal Bengal proto-ddiwydiannol am 75 mlynedd (1608-39 a 1660-1704). Fel canolbwynt masnach y mwslin yn Bengal, roedd yn un o'r dinasoedd mwyaf llewyrchus ar is-gyfandir India. Enwyd y ddinas ganoloesol yn Jahangirabad er anrhydedd i'r Ymerawdwr Mughalaidd Jahangir ac roedd yn gartref i sedd Subahdar Mughal, Naib Nazims a Dewans.

Yn yr Oesoedd Canol, cyrhaeddodd Dhaka ei uchafbwynt yn yr 17g a'r 18g, pan oedd yn gartref i fasnachwyr o bob rhan o Ewrasia. Roedd yn ganolbwynt masnach forwrol lewyrchus gan ddenu masnachwyr Ewropeaidd. Addurnodd y Mughals y ddinas gyda gerddi, beddrodau, mosgiau, palasau a chaerau wedi'u cynllunio'n dda. Ar un adeg galwyd y ddinas yn "Fenis y Dwyrain".[1]

Ym 1947, ar ôl diwedd rheolaeth Prydain yn y wlad, daeth y ddinas yn brifddinas weinyddol Dwyrain Pacistan. Fe'i cyhoeddwyd fel prifddinas ddeddfwriaethol Pacistan ym 1962. Ym 1971, ar ôl y Rhyfel dros Annibyniaeth, daeth yn brifddinas Bangladesh annibynnol.

Dhaka yw prifddinas arian, masnach ac adloniant Bangladesh, ac mae hyd at 35% o economi Bangladesh yn tarddu oddi yma.[2] Ers ei sefydlu fel prifddinas fodern mae poblogaeth, ardal, amrywiaeth cymdeithasol ac economaidd Dhaka wedi tyfu'n aruthrol; mae'r ddinas bellach yn un o'r rhanbarthau diwydiannol mwyaf dwys ym Mangladesh. Mae Dhaka yn gartref i bencadlys sawl corfforaeth ryngwladol.[3]

Erbyn yr 21g, daeth i'r amlwg fel mega-ddinas. Mae gan Gyfnewidfa Stoc Dhaka dros 750 o gwmnïau rhestredig. Yma hefyd mae pencadlys BIMSTEC. Mae diwylliant y ddinas yn adnabyddus am ei ricsios (cerbydau a dynnir gan feic), bwyd, gwyliau celf ac amrywiaeth grefyddol. Mae'r hen ddinas yn gartref i oddeutu 2,000 o adeiladau o'r cyfnod Mughal a Phrydain, gan gynnwys strwythurau nodedig fel carafanau Bara Katra a Choto Katra.

  1. Hough, Michael (1 Ionawr 2004). Cities and Natural Process: A Basis for Sustainability. Psychology Press. ISBN 9780415298544. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mawrth 2017. Cyrchwyd 26 Awst 2017.
  2. Rezaul Karim (24 Chwefror 2017). "Dhaka's economic activities unplanned: analysts". The Daily Star. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Gorffennaf 2019. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2019.
  3. "The World According to GaWC 2020". GaWC - Research Network. Globalization and World Cities. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Awst 2020. Cyrchwyd 31 Awst 2020.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search