Diana, Tywysoges Cymru

Diana
Tywysoges Cymru
Diana yn 1997
GanwydDiana Frances Spencer
(1961-07-01)1 Gorffennaf 1961
Sandringham, Norfolk, Lloegr
Bu farw31 Awst 1997(1997-08-31) (36 oed)
Paris, Ffrainc
Claddwyd6 Medi 1997
Althorp, Swydd Northampton, Lloegr
PriodSiarl, Tywysog Cymru
(hwyrach Siarl III)
(pr. 1981; ysg. 1996)
Plant
Teulu
  • Spencer (yn ôl genedigaeth)
  • Windsor (trwy briodas)
TadJohn Spencer, 8fed Iarll Spencer
MamFrances Roche

Diana Spencer, a adnabyddir wrth ei theitl swyddogol fel Diana, Tywysoges Cymru (anfrodorol) (Diana Frances; née Spencer; 1 Gorffennaf 1961[1]31 Awst 1997) oedd gwraig gyntaf Y Tywysog Siarl. Ei meibion, y Tywysog William a'r Tywysog Harri, yw'r ail a'r trydydd etifeddion yr orsedd ym Mhrydain a'r pymthegfed yn Nheyrnas y Gymanwlad.

Roedd Diana yn ffigwr cyhoeddus ers i'w dyweddiad i'r Tywysog Siarl gael ei gyhoeddi. Ers hynny roedd Diana bron yn ddi-baid, yn ganolbwynt ar gyfer archwiliadau'r wasg ym Mhrydain ac o gwmpas y byd, yn ystod ei phriodas ac yn dilyn ei hysgariad. Bu farw mewn damwain car ym Mharis. Daeth Ymchwiliad y Crwner, a oedd yn hir-ddisgwyliedig, i ben ym mis Ebrill 2008, a daeth i'r casgliad y lladdwyd Diana yn anghyfreithlon gan y gyrrwr a'r paparazzi a oedd yn ei herlid.[2]

  1. Morton, Andrew (2004). Diana: In Pursuit of Love (yn Saesneg). United States: Michael O'Mara Books. t. 70. ISBN 978-1-84317-084-6.
  2. Princess Diana unlawfully killed BBC. Adalwyd ar 07-04-2008, 22:34 GMT

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search