Dinbych

Dinbych
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,670 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolClwyd Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1872°N 3.4157°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000151 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ055665 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auGill German (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Am ystyron eraill gweler Dinbych (gwahaniaethu).

Tref hanesyddol a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Dinbych (Saesneg: Denbigh). "Caer fechan" yw ystyr ei enw ac ymddengys gyntaf mewn dogfen yn 1211 gyda'r silafiad: "Dunbeig" ac yna "Tynbey" yn 1230 a "Dymbech" yn 1304-5. Ceir Dinbych y Pysgod yn ne Cymru hefyd.

Yn 1290 derbyniwyd Dinbych fel bwrdeistref, a chafodd y dref gyfan ei chynnwys o fewn muriau allanol y castell. Pan gododd Madog ap Llywelyn a'i wŷr rhwng 1294 a 1295, roedd y dref yng nghanol y gwrthryfel. Llwyddodd Madog i gipio'r castell ym mis hydref 1294 a phan ddaeth catrawd o filwyr Seisnig i'w ailfeddiannu, fe drechedwyd y rheiny hefyd. Ond er hynny, cipiodd Edward I y castell ym mis Rhagfyr.

Yn 1400, ymledodd gwreichion gwrthryfel Glyn Dŵr ar draws y dyffryn ac fel sawl tref arall yn y cyffiniau, llosgwyd y rhannau Seisnig o'r dref i'r llawr, cyn i'r gwrthryfelwyr fynd yn eu blaen i ymosod ar Ruddlan.

Dinbych, 18fed ganrif

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search