Dofi yw'r broses lle mae gwahanol rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion yn cael eu defnyddio a'u haddasu ar gyfer dibenion dynol. Gellir eu defnyddio ar gyfer bwyd neu at ddibenion eraill, er enghraifft gwlân o ddefaid i wneud dillad. Fel rheol, mae'r rhywogaethau hyn yn cael ei newid trwy fridio dewisol i'w gwneud yn fwy addas ar gyfer y dibenion hyn.
Y rhywogaeth gyntaf i'w dofi oedd y ci, ffurf wedi ei dofi o'r blaidd, efallai tua 100,000 o flynyddoedd yn ôl. Y rhai nesaf oedd yr afr, y ddafad a'r mochyn, tua 8000 CC yng ngorllewin Asia. Dilynwyd hwy gan y fuwch tua 6000 CC.
Ymysg y rhywogaethau o anifeiliaid sydd wedi eu dofi mae:
Rhywogaeth | Dyddiad | Lleoliad |
---|---|---|
Ci | 15000 CC. | Nifer o leoliadau |
Gafr | 10000 CC.[1] | Asia a'r Dwyrain Canol |
Dafad | 8000 CC.[2] | Asia a'r Dwyrain Canol |
Mochyn | 8000 CC.[3] | Tsieina |
Buwch | 8000 CC.[4][5] | India, Dwyrain Canol, Affrica |
Cath | 7000 CC.[6] | Y Môr Canoldir |
Iâr | 6000 CC.[7] | De-ddwyrain Asia |
Mochyn cwta | 5000 CC.[8] | Periw |
Asyn | 5000 CC.[9],[10] | Hen Aifft |
Byffalo dŵr | 4000 CC. | Tsieina |
Ceffyl | 4000 CC. | Wcrain |
Lama | 3500 CC. | Periw |
Camel | 2500 CC.??? | Canolbarth Asia |
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search