Dorset

Dorset
Mathsiroedd seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDe-orllewin Lloegr, Lloegr
PrifddinasDorchester Edit this on Wikidata
Poblogaeth776,780 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,813.998 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwlad yr Haf, Dyfnaint, Wiltshire, Hampshire Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.8333°N 2.3333°W Edit this on Wikidata
Map

Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset. Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.

Lleoliad Dorset yn Lloegr

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search