Y Duw Corniog | |
---|---|
Duw natur, anialwch, rhywioldeb, hela | |
![]() | |
Consort | Y Dduwies Driphlyg |
Un o ddau brif dduwdod a geir yn Wica, sy'n grefydd Neo-baganaidd, ydy'r Duw Corniog. Y mae'r term Duw Corniog, neu Horned God, i'w gael cyn oes Wica, a seilir Duw Corniog y Wiciaid ar dduwiau â chyrn hanesyddol.[1]
Yn Wica, mae'r Duw Corniog yn cynrychioli'r ochr wrywaidd diwinyddiaeth, sy'n gallu ymddangos ar sawl ffurf, megis yr haul.[2] Y mae hefyd yn cynrychioli "egni grym bywyd anifeiliaid a'r gwyllt,"[3] gyda chysylltiadau â'r anialwch, gwrywdod, ac hela.[4] Dywedai Doreen Valiente hefyd fod y Duw Corniog yn mynd ag ysbrydion y meirw i Annwn, neu'r Isfyd.[5]
Yn Wica, mae cylchred y tymhorau'n symboleiddio'r berthynas rhwng y Duw Corniog a'r Dduwies.[4] Adeg yr hydref a'r gaeaf, mae'r Duw Corniog yn beichiogi'r Dduwies, ac wedyn mae'n marw, cyn iddo gael ei aileni o fru'r Dduwies yn y gwanwyn.[6] Mae ganddo hefyd agweddau gwahanol trwy'r tymhorau, megis y Brenin Celyn a'r Brenin Derw,[4] ac adeg Calan Gaeaf, er enghraifft, mae e'n marw. Dethlir y marwolaeth hon gan felly y gall bywyd ailgynnau.[7]
Ymhlith gwyliau pwysig eraill sy'n perthyn i'r Duw Corniog ceir Imbolc, neu Ŵyl Fair y Canhwyllau, pan, yn ôl Valiente, mae'r Duw yn arwain yr Helfa Wyllt.[5] Yn Wica Gardneraidd, ceir gweddïau i'r Duw Corniog ar ddiwedd bob defod, neu gyfarfod, sy'n cynnwys y llinell:
“ | Yn enw Merch y Lleuad, ac Arglwydd Corniog Marwolaeth ac Ailenedigaeth[8] | ” |
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search