Dwyfor Meirionnydd (etholaeth seneddol)

Dwyfor Meirionnydd
Etholaeth Sir
Dwyfor Meirionnydd yn siroedd Cymru
Creu: 2010
Math: Tŷ'r Cyffredin
AS presennol: Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Etholaeth Dwyfor Meirionnydd yw'r enw ar etholaeth seneddol yn San Steffan. Lleolir yr etholaeth yn ne Gwynedd ac mae'n cynnwys yn fras ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd. Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) yw'r Aelod Seneddol presennol.

Cadwodd yr etholaeth ei henw ac enillodd rai wardiau, fel rhan o Adolygiad Cyfnodol 2023 o etholaethau San Steffan ac o dan argymhellion terfynol Mehefin 2023 y Comisiwn Ffiniau i Gymru ar gyfer etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 2024.[1]

  1. 2023 Review of Parliamentary Constituencies - The 2023 Review of Parliamentary Constituencies in Wales (PDF). Y Comisiwn Ffiniau i Gymru. 28 June 2023.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search