Dydd Sul

Ymlacio ar y Sul: Dimanche (paentiad olew ar gynfas, tua 1888–90) gan Paul Signac

Mae Dydd Sul (hefyd y Sul) yn ddiwrnod o'r wythnos. Mae rhannau o'r byd yn ei ystyried yn ddiwrnod olaf yr wythnos, tra bod eraill yn ei roi yn gyntaf. Cafodd ei enwi ar ôl yr Haul (Lladin "(dies) Sōlis".[1] Mae Cristnogaeth yn clustnodi'r Sul yn ddydd sanctaidd.

  1. Henry Lewis, Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1943), t. 47

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search