Elenydd

Elenydd
Tirwedd clasurol o fryniau Elenydd
Mathucheldir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
Powys
Sir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.4°N 3.7°W Edit this on Wikidata
Map

Ardal o fryniau yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yw Elenydd. Mae'n ymestyn o fryniau ardal Pumlumon yn y gogledd (i'r de o Fachynlleth ac i'r dwyrain o Aberystwyth) i lawr i fryniau gogledd Sir Gaerfyrddin a de-ddwyrain Ceredigion, gan gynnwys sawl bryn canolig ei uchder yn y ddwy sir honno ac yng ngorllewin Powys. Ni cheir cytundeb unfarn ar derfyn deheuol Elenydd. Tueddir i gyfeirio at yr ardal yn Saesneg fel y "Cambrian Mountains", ond enw anaddas a diystyr ydyw (gweler hefyd Cambria a Cambriaidd). Ceir cyfeiriadau at Elenydd (yn y ffurf Cymraeg Canol Elenid / Elenyd) mewn sawl llawysgrif gan ddechrau ar ddiwedd y 12g, gan gynnwys chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogion a gwaith Gerallt Gymro.[1]

  1. Iwan Wmffre, The Place-Names of Cardiganshire' cyf.3 (2004), t.1314

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search