Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig

Elisabeth II
Pennaeth y Gymanwlad
Portread ffurfiol, 1959
Brenhines y Deyrnas Unedig
ac eraill teyrnasoedd y Gymanwlad
6 Chwefror 1952 – 8 Medi 2022
Coronwyd2 Mehefin 1953
RhagflaenyddSiôr VI
OlynyddSiarl III
GanwydDywysoges Elisabeth o Efrog
(1926-04-21)21 Ebrill 1926
Mayfair, Llundain, Lloegr
Bu farw8 Medi 2022(2022-09-08) (96 oed)
Castell Balmoral, Swydd Aberdeen, Yr Alban
Claddwyd19 Medi 2022
Castell Windsor, Windsor, Berkshire, Lloegr
PriodY Tywysog Philip, Dug Caeredin
(pr. 1947; bu farw 2021)
Plant
Enw llawn
Elizabeth Alexandra Mary
TeuluWindsor
TadSiôr VI
MamElizabeth Bowes-Lyon
CrefyddProtestannaidd
Llofnod

Roedd Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary; 21 Ebrill 19268 Medi 2022) yn Frenhines Y Deyrnas Unedig a teyrnasoedd y Gymanwlad o 6 Chwefror 1952 hyd ei marwolaeth. Bu'n teyrnasu dros 32 gwladwriaeth sofran yn ystod ei bywyd, gan wasanaethu fel brenhines 15 ohonynt ar amser ei marwolaeth. Ei theyrnasiad o 70 mlynedd a 214 diwrnod oedd yr hiraf o unrhyw frenin neu frenhines y Deyrnas Unedig neuDeyrnas Lloegr.[1] Roedd hi ymhlith y breninesau a'r brenhinoedd hiraf eu teyrnasiad yn y byd, a'r ail hiraf yn hanes gwledydd sofran y tu ôl i Louis XIV, brenin Ffrainc.

Ei theitl llawn oedd Elizabeth yr Ail, Brenhines, trwy Ras Duw, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd yr Iwerddon a'i Theyrnasoedd a'i Thiriogaethau eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd. Yn ogystal â bod yn Frenhines Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Elisabeth II oedd Pennaeth Gwladwriaethau Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Jamaica, Barbados, Bahamas, Grenada, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Solomon, Twfalw, Sant Lwsia, Saint Vincent a'r Grenadines, Antigwa a Barbiwda, Belîs a Sant Kitts-Nevis, lle roedd hi'n cael ei chynrychioli gan Lywodraethwr Cyffredinol. Roedd hefyd yn Bennaeth y Gymanwlad.

  1. Brenhines Elizabeth II (1926-2022) , Golwg360, 8 Medi 2022.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search