Esgob Llanelwy

Arfbais yr Esgob Llanelwy

Esgob Llanelwy yw pennaeth Esgobaeth Llanelwy yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r esgobaeth yn cynnwys Sir Ddinbych a Sir y Fflint rhai rhannau o Sir Conwy a Powys ac ychydig o sir Gwynedd. Mae'r gadeirlan yn Llanelwy.

Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd yr esgobaeth gan Cyndeyrn, a elwir hefyd yn Kentigern a Mungo, tua chanol y 6g. Ymhlith yr enwocaf o esgobion Llanelwy mae Sieffre o Fynwy a William Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search