Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016

Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016

← 2011 5 Mai 2016 2021 →

Pob un o 60 sedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 seddi sydd angen i gael mwyafrif
  Plaid cyntaf Yr ail blaid
 
Blank
Arweinydd Carwyn Jones Leanne Wood
Plaid Llafur Plaid Cymru
Sedd yr arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr Rhondda
Etholiad ddiwethaf 30 sedd, 42.3% 11 sedd, 19.3%
Seddi a enillwyd 29 12
Newid yn y seddi Decrease1 increase1
Pleidleisiau'r Etholaethau 353,866 209,376
% Etholaethau 34.7% 20.5%
Pleidleisiau'r Rhestr 319,196 211,548
% Rhestr 31.5% 20.8%

  Trydedd plaid Pedwaredd plaid
 
Blank
Blank
Arweinydd Andrew R. T. Davies Nathan Gill
Plaid Ceidwadwyr UKIP
Sedd yr arweinydd Canol De Cymru Gogledd Cymru
Etholiad ddiwethaf 14 sedd, 25.0% 0
Seddi cynt 0
Seddi a enillwyd 11 7
Newid yn y seddi Decrease3 increase7
Pleidleisiau'r Etholaethau 215,597 127,038
% Etholaethau 21.1% 12.5%
Pleidleisiau'r Rhestr 190,846 132,138
% Rhestr 18.8% 13.0%

Prif Weinidog cyn yr etholiad

Carwyn Jones
Llafur

Etholwyd Prif Weinidog

Carwyn Jones
Llafur

Cynhaliwyd Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ar ddydd Iau 5 Mai 2016, pan etholwyd Aelodau'r Cynulliad (AC) i holl seddi'r cynulliad; 60 ohonynt. Hwn oedd 5ed etholiad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr ail ers Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a'r cyntaf ers Deddf Llywodraeth Cymru 2014. Cynhaliwyd yr etholiad cyn yr un yma yn 2011 a chyn hynny yn 2007, 2003 a 1999.

Yn fyr, aeth nifer ACau y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr i lawr, gwelwyd ACau UKIP yn cael eu hethol drwy sytem gyfrannol yr etholiad (Rhestr Rhanbarth) a chipiodd Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru sedd Leighton Andrews, Llafur yn y Rhondda.

Yn yr etholiad flaenorol enillwyd mwyafrif y seddi gan y Blaid Lafur, a gipiodd bedair seddi yn fwy na'r tro cynt. Yn 2015 roedd gan y Blaid Lafur 30 o seddi, sef union hanner cyfanswm seddi'r Cynulliad, un arall oedd angen arnynt i hawlio mwyafrif. Gwelodd y blaid hefyd ogwydd o 10% o'u plaid; yr ail blaid fwyaf oedd y Blaid Geidwadol, gydag 14 o seddi: dau'n fwy na'r flwyddyn cynt. Fodd bynnag, collodd arweinydd y Blaid Geidwadol, Nick Bourne, ei sedd. Collodd Blaid Cymru bedair sedd a dim ond 5 aelod a gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol.[1])

Yn Is-etholiad Ynys Môn, 2013 a gynhaliwyd ar ddydd Iau y 1af o Awst 2013 cododd gogwydd Plaid Cymru i +16.82% pan enillodd ymgeisydd newydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth y sedd.[2][3][4]

Bydd gan ddinasyddion gwledydd Prydain, Y Gymanwlad a'r Undeb Ewropeaidd yr hawl i bleidleisio, cyn belled a'u bod yn byw yng Nghymru a thros 18 oed ar y diwrnod. Ar yr un diwrnod, cynhelir etholiad ar gyfer Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Cynulliad Llundain a Maer Llundain a nifer o awdurdodau yn Lloegr. Gohiriwyd yr etholiadau hyn i gyd am gyfnod o flwyddyn - o 1015 i 2016 - oherwydd y cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2015. Dan Ddeddf Cymru 2014, bydd etholiadau'r cynulliad yn cael eu cynnal bob yn 5 mlynedd.

  1. "Assembly national votes and seats by party, and links to constituency results". BBC Online. 16 Mawrth 2011. Cyrchwyd 26 Hydref 2013.
  2. http://www.assemblywales.org/newhome/new-news-fourth-assembly.htm?act=dis&id=247249&ds=6/2013[dolen marw]
  3.  Plaid Cymru yn ennill Ynys Môn. BBC Cymru (1 Awst 2013). Adalwyd ar 2 Awst 2013.
  4.  Plaid Cymru's emphatic Ynys Mon by-election win. BBC (2 Awst 2013). Adalwyd ar 2 Awst 2013.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search