Enghraifft o'r canlynol | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 8 Hydref 1959 |
Rhagflaenwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1955 |
Olynwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1964 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1959 ar 8 Hydref y flwyddyn honno. Enillwyd yr etholiad gan y Ceidwadwyr gyda Harold Macmillan yn parhau i fod yn Brif Weinidog. Slogan gofiadwy a ddefnyddiwyd ganddo yn ystod yr ymgyrchu oedd "you have never had it so good". Ar ôl yr etholiad roedd gan y Ceidwadwyr 365 aelod seneddol, y Blaid Lafur 258 a'r Rhyddfrydwyr 6 yn unig. Enillodd Macmillan er gwaethaf yr adwaith yn erbyn argyfwng Suez (1956) a phroblemau economaidd yn y DU. Yn ogystal roedd ei blaid wedi cynyddu ei mwyafrif am y trydydd dro yn olynol, camp unigryw yn hanes gwleidyddiaeth Prydain.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search