Ffilm fud

Un o sêr mwyaf y ffilmiau mud oedd Lillian Gish

Ffilm heb drac sain syncroneiddiedig (h.y. a recordiwyd ar y pryd), yn enwedig trac sain deialog, yw film fud. Roedd y ffilm gyntaf i gael ei saethu erioed, yn 1888, yn ffilm fud. Bu'r ffilm fud ar ei hanterth yn y cyfnod 1915-1927, ond ildiodd i'r "talkies" newydd yn gyflym ar ôl 1928.

Er bod y syniad o wneud ffilmiau gyda thraciau sain recordiedig hyned â'r diwydiant ffilm ei hun, oherwydd anawsterau technegol roedd y rhan fwyaf o ffilmiau yn fud hyd y 1920au diweddar.

Cyfeirir yn aml at gyfnod y ffilm fud fel "Oes y Sgrîn Arian," am fod gan y ffilm a ddefnyddid yn y 1910au a'r 1920au sglein arianaidd.

Roedd actio mewn ffilm mud yn gofyn technegau arbennig. Byddai'r actorion yn pwysleisio emosiynau a theimladau trwy ystumiau'r wyneb, ac mae golygfeydd sy'n canolbwyntio ar wyneb yr actor(es) yn nodweddiadol o ffilmiau mud. Mewn canlyniad mae'r actio a welir yn y ffilmiau yn gallu ymddangos fel "gor-actio" i wylwyr heddiw, ond rhaid cofio fod ymateb cynulleidfaoedd cyfoes yn wahanol.

Mae sêr mawr y ffilm fud yn cynnwys Charlie Chaplin, Edna Purviance, Lillian Gish, Mary Pickford, Theda Bara, Buster Keaton a Lon Chaney.

Ymhlith cyfarwyddwyr enwocaf byd y ffilm fud gellid crybwyll Abel Gance, D. W. Griffith, Mack Sennet, Charlie Chaplin a Cecil B. DeMille.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search