Ffrwydron rhyfel

Arfau milwrol o natur ffrwydrol yw ffrwydron rhyfel.[1] Mae'r rhain yn cynnwys teflynnau a thanwyddau a ddefnyddir mewn drylliau a ellir eu rhannu'n ddau gategori: mân arfau, sef o galibr (neu ddiamedr) llai nag 20 mm, a magnelau, sef o galibr mwy nag 20 mm.[2] Mae bomiau milwrol o bob math, gan gynnwys taflegrau, grenadau, a ffrwydron tir, hefyd yn ffrwydron rhyfel.

  1. Geiriadur yr Academi [ammunition].
  2. (Saesneg) ammunition. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Rhagfyr 2013.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search