![]() | |
Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam Cộng hòa xã hội chủ nghĩa Việt Nam | |
![]() | |
Arwyddair | Annibyniaeth – Rhyddid – Hapusrwydd ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth comiwnyddol, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl | Nanyue ![]() |
Prifddinas | Hanoi ![]() |
Poblogaeth | 96,208,984 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Tiến quân ca ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Phạm Minh Chính ![]() |
Cylchfa amser | UTC+07:00, Asia/Ho_Chi_Minh ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Fietnameg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-ddwyrain Asia, Indo-Tsieina ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 331,690 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Cambodia, Laos ![]() |
Cyfesurynnau | 16°N 108°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Fietnam ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Fietnam ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Fietnam ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Tô Lâm ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Fietnam ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Phạm Minh Chính ![]() |
![]() | |
![]() | |
Crefydd/Enwad | Bwdhaeth, Catholigiaeth, Protestaniaeth, Caodaism, Hòa Hảo ![]() |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $366,138 million, $408,802 million ![]() |
Arian | đồng Fietnam ![]() |
Canran y diwaith | 2 ±1 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 2.06 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.703 ![]() |
Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Fietnam (hefyd yn y Gymraeg: Fiet-nam; Fietnameg: Việt Nam, Saesneg: Vietnam), neu Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam (Fietnameg: Cộng hòa xã hội chủ nghĩa Việt Nam yn swyddogol). Y gwledydd cyfagos yw Gweriniaeth Pobl Tsieina i'r gogledd, a Laos a Cambodia i'r gorllewin. Gorwedd Môr De Tsieina i'r dwyrain. Mae Fietnam hefyd yn rhannu ffiniau morwrol â Gwlad Tai trwy Gwlff Gwlad Thai, y Philipinau, Indonesia, a Maleisia trwy Fôr De Tsieina. Ei dinas fwyaf yw Dinas Ho Chi Minh (Saigon).
Gyda phoblogaeth o 96,208,984 (1 Ebrill 2019)[1] yn y cyfrifiad diwethaf, ac arwynebedd o 311,699 km sg, mae Fietnam yn un o'r gwledydd mwyaf dwys ei phoblogaeth yn Ne-ddwyrain Asia. Hanoi yw prifddinas y wlad, gyda phoblogaeth o 8,435,650 (2022)[2].
Roedd pobl yn byw yn Fietnam mor gynnar â Hen Oes y Cerrig (y Paleolithig). Canolfan y genedl Fietnamaidd gyntaf y gwyddys amdani yn ystod y mileniwm cyntaf CC oedd Delta'r Afon Goch, a leolir yng ngogledd Fietnam heddiw. Daeth Fietnam o dan lywodraeth Tsieineaidd (llinach neu frenhinlin Han) o 111 CC, nes i’r frenhinlin imperialaidd annibynnol gyntaf ddod i’r amlwg yn 939. Llwyddodd i amsugno dylanwadau Tsieineaidd trwy Gonffiwsiaeth a Bwdhaeth, gan ehangu tua'r de i Ddelta Mekong. Syrthiodd y Nguyễn - y llinach imperialaidd olaf - i wladychu Ffrengig ym 1887. Yn dilyn Chwyldro Awst, cyhoeddodd y cenedlaetholwr Việt Minh dan arweinyddiaeth y chwyldroadwr comiwnyddol Ho Chi Minh annibyniaeth oddi ar Ffrainc ym 1945.
Aeth Fietnam trwy sawl rhyfel gwaedlyd trwy'r 20g: ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dychwelodd Ffrainc i adennill pŵer trefedigaethol yn Rhyfel Indo-Tsieina, gyda Fietnam yn fuddugol ym 1954. Dechreuodd Rhyfel Fietnam yn fuan wedi hynny, pan rannwyd y genedl yn Ogledd comiwnyddol gyda chefnogaeth yr Undeb Sofietaidd a Tsieina, a De gwrth-gomiwnyddol gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau. Ar fuddugoliaeth Gogledd Fietnam ym 1975, adunodd Fietnam fel gwladwriaeth sosialaidd unedol o dan Blaid Gomiwnyddol Fietnam ym 1976. Fe wnaeth economi aneffeithiol, embargo masnach gan y Gorllewin, a rhyfeloedd â Chambodia a Tsieina chwalu’r wlad. Ym 1986, cychwynnodd y Blaid Gomiwnyddol ddiwygiadau economaidd a gwleidyddol, gan drawsnewid y wlad yn economi sy'n canolbwyntio ar farchnad rydd.
Gwnaeth y diwygiadau hyn hi'n bosib i Fietnam ymuno â'r economi a gwleidyddiaeth fyd-eang.
Heddiw, mae'r wlad yn un sy'n datblygu gydag economi incwm canolig is, ac yn un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf yn yr 21g. Mae'n rhan o sefydliadau rhyngwladol a rhynglywodraethol gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, yr ASEAN, APEC, CPTPP, y Mudiad Amhleidiol, y Sefydliad internationale de la Francophonie, a Sefydliad Masnach y Byd. Cymerodd sedd ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddwywaith. Ymhlith y materion cyfoes llosg yn Fietnam y mae llygredd a hawliau dynol gwael.[3][4]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search