Frances Stevenson

Frances Stevenson
Toriad papur newydd gyda'r capsiwn: "A Private Secretary to Mr. Lloyd George: Miss F.L. Stevenson"
Ganwyd7 Hydref 1888 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1972 Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Holloway, Prifysgol Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethdyddiadurwr Edit this on Wikidata
TadJohn Stevenson Edit this on Wikidata
PriodDavid Lloyd George Edit this on Wikidata
PlantJennifer Mary Stevenson Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Roedd Frances Stevenson, Iarlles Lloyd-George o Ddwyfor, CBE (7 Hydref 18885 Rhagfyr 1972) yn feistres, yn ysgrifennydd personol ac yn ail wraig i Aelod Seneddol Caernarfon a Phrif Weinidog Prydain David Lloyd George.[1] Ganwyd Frances Stevenson yn Llundain. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Clapham a Choleg Brenhinol Holloway, lle graddiodd gyda gradd yn y Clasuron ym 1910.

Cyfarfu Frances â Lloyd George yn 1910 a'r flwyddyn ddilynol, pan oedd Lloyd George yn Ganghellor y Trysorlys, cyflogodd Stevenson fel tiwtor preifat ar gyfer ei merch ieuengaf Megan.

Ddwy flynedd ar ôl marwolaeth Margaret, gwraig cyntaf Lloyd George, fe briododd â Frances ar 23 Hydref 1943, er gwaethaf anghymeradwyaeth ei blant o'i briodas gyntaf.[2] Llai na deunaw mis yn ddiweddarach, bu farw Lloyd George ar 26 Mawrth, 1945.

  1. [Ruth Longford, "Frances, Countess Lloyd George: more than a mistress", Gracewing Publishing, 1996, tud. 11-12
  2. [Ruth Longford, "Frances, Countess Lloyd George: more than a mistress", Gracewing Publishing, 1996, tud. 154-6.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search