Galisia

Galisia
MathCymunedau ymreolaethol Sbaen, historical nationality, ardal ddiwylliannol, cenedl, teyrnas, gwlad Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Galicia.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasSantiago de Compostela Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,695,645 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Ebrill 1981 Edit this on Wikidata
AnthemOs Pinos Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAlfonso Rueda Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iWakayama Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Galiseg, Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd29,574 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd, Môr Cantabria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAsturias, Castilla y León, Norte Region Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.8°N 7.9°W Edit this on Wikidata
ES-GA Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolXunta de Galicia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholParliament of Galicia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Xunta of Galicia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAlfonso Rueda Edit this on Wikidata
Map

Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen yw Galisia (Galisieg: Galicia; Galiza[1], Sbaeneg Galicia). Saif yng ngogledd-orllewin yr orynys Iberaidd. Mae nifer o ynysoedd megis y Cíes, Ons, Cortegada, Arousa, Sálvora a Vionta yn rhan o Galisia. Ystyrir Galisia yn genedl hanesyddol, fel Catalwnia ac Ewskadi (sef Gwlad y Basg).

Mae gan Galisia ei hiaith ei hun, Galisieg, sy'n iaith Rufeinaidd, sy'n debygach i Bortiwgaleg na Sbaeneg. Yn ôl astudiaeth ddiweddar defnyddir yr iaith gan tua 80% o'r boblogaeth. Ymhlith ei harwyr chwedlonol mae Pedro Pardo de Cela (c. 1425 - 17 Rhagfyr 1483). Ystyrir Ramón Piñeiro (31 Mai 1915 - 27 Awst 1990) yn Athronydd, awdur a chenedlaetholwr o bwys. Fe'i ganwyd yn Armea de Abaixo, Lama, Láncara, Galisia ac roedd yn flaenllaw yn ei ymdrech i hyrwyddo diwylliant Galicia wedi Rhyfel Cartref Sbaen.

Roedd Rosalía de Castro (1837 – 1885) yn brif lenor Galisia ac heddiw yn arwres ffeministaidd. Cyhoeddodd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Cantares gallegos (Caneuon Galisieg) ar 17 Mai, 1863. Mae 17 Mai bellach yn cael ei dathlu fel Día das Letras Galegas - Diwrnod llenyddiaeth Galisieg, yn ddiwrnod o wyliau yn Galisia. Un o brif ffigyrau eraill Galisia yw Castelao (1886 – 1950) a oedd yn arweinydd y mudiad cenelaethol, ysgrifennwr, arlunydd, cartwnydd, dramodydd a doctor.

  1. Fraga, Xesús (2008-06-08). "La Academia contesta a la Xunta que el único topónimo oficial es Galicia". La Voz de Galicia. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search