![]() | |
![]() | |
Math | dinas fawr, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of North Rhine-Westphalia ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 263,000 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Frank Baranowski ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Regionalverband Ruhr ![]() |
Sir | Ardal Llywodraethol Münster ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 104.94 km² ![]() |
Uwch y môr | 48 metr ![]() |
Yn ffinio gyda | Recklinghausen, Herne, Bochum, Essen, Dorsten ![]() |
Cyfesurynnau | 51.52°N 7.1°E ![]() |
Cod post | 45801–45899 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Frank Baranowski ![]() |
![]() | |
Mae Gelsenkirchen (IPA:ɡɛlzn̩ˈkɪɐ̯çn̩) yn ddinas yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin Yr Almaen. Ei phoblogaeth yn 2016 oedd 262,528 a hi yw 25ain ddinas fwaf y wlad. Lleolir hi ar lan Afon Emscher, sy'n gangen o Afon Rhein. Mae'r ddinas yn gorwedd ynghannol dyffryn y Ruhr, sef ardal ddiwydiannol ac ardal drefol a mwyaf poblog yr Almaen lle mae'r dinasoedd yn rhedeg fewn i'w gilydd yn debyg i bentrefi Cymoedd de Cymru. Gelsenkirschen yw'r bumed ddinas fwyaf yn y Ruhr ar ôl Dortmund, Essen, Duisburg a Bochum. Mae Rhanbarth Rhein-Ruhr yn un o ranbarthau metropolitan fwyaf Ewrop. Gelsenkirchen yw un o ddinasoedd mwyaf deheuol tafodiaith Platt Deutsch - continiwm o dafodieithoedd sy'n ymestyn ar draws gogledd yr Almaen ac sydd agosaf at yr iaith Iseldireg yn hanesyddol. Mae'r ddinas yn gartref i glwb pêl-droed FC Schalke 04, sy'n chware yn y Veltins-Arena yn Gelsenkirchen-Erle.
Mae hanes Gelsenkirschen wedi cael ei nodweddu gan ddiwydiant trwm megis glo a dur ac adnabwyd hi unwaith fel y "dinas y mil o danau".
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search