George Floyd

George Floyd
FfugenwBig Floyd Edit this on Wikidata
GanwydGeorge Perry Floyd Jr. Edit this on Wikidata
14 Hydref 1973 Edit this on Wikidata
Fayetteville, Gogledd Carolina Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 2020 Edit this on Wikidata
o mygu Edit this on Wikidata
Minneapolis Edit this on Wikidata
Man preswylSt. Louis Park, Minnesota‎, Minneapolis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Jack Yates High School
  • Ryan Middle School
  • Texas A&M University–Kingsville Edit this on Wikidata
Galwedigaethsecurity guard, rapiwr, gyrrwr lori, chwaraewr pêl-fasged, actor pornograffig Edit this on Wikidata
Arddullrapio, hip hop Edit this on Wikidata
Taldra193 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau223 pwys Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTexas A&M–Kingsville Javelinas men's basketball Edit this on Wikidata
Murlun o George Floyd, Berlin, Yr Almaen

Roedd George Perry Floyd Jr. (14 Hydref 197325 Mai 2020) yn ddyn Affro-Americanaidd a laddwyd ar 25 Mai 2020 ym Minneapolis, Minnesota, UDA, ar ôl i Derek Chauvin, heddwas gwyn, wthio ar ei wddf am fwy na saith munud, tra bod swyddogion heddlu eraill yn arsylwi ac yn gwneud dim i atal ei farwolaeth.[1][2][3] Recordiwyd y digwyddiadau gyda ffonau symudol a'u lledaenu ar cyfryngau cymdeithasol.[4] Cafodd y pedwar heddwas dan sylw eu diswyddo drannoeth.[5]

Mae'r Swyddfa Ymchwilio Ffederal yn cynnal ymchwiliad hawliau sifil ffederal i'r digwyddiad, ar gais Adran Heddlu Minneapolis, tra bod Swyddfa Dal Troseddol Minnesota (BCA) yn ymchwilio i weld a oes troseddau posib yn erbyn statudau Minnesota.[2]

Cymharwyd marwolaeth Floyd â marwolaeth Eric Garner yn 2014, dyn du heb arf a ailadroddodd “I can't breathe” wrth gael ei fygu gan heddweision oedd wedi ei arestio.[1] Yn sgil llofruddiaeth Floyd, esgorwyd ar brotestiadau byd-eang, gan gynnwys Protestiadau George Floyd yng Nghymru a ralïau o dan faner Black Lives Matter.

Ar 20 Ebrill 2021, cafwyd y plismon Derek Chauvin yn euog ar dri cyhuddiad - llofruddiaeth o’r ail radd, llofruddiaeth o’r trydydd gradd a dynladdiad o’r ail radd. Daeth y rheithgor i benderfyniad unfrydol wedi deg awr o drafod dros ddeuddydd. Bydd y tri plismon arall yn mynd gerbron y llys yn Awst 2021.[6]

  1. 1.0 1.1 https://minnesota.cbslocal.com/2020/05/26/george-floyd-man-dies-after-being-arrested-by-minneapolis-police-fbi-called-to-investigate/
  2. 2.0 2.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-28. Cyrchwyd 2020-06-17.
  3. https://minnesota.cbslocal.com/2020/05/26/being-black-in-america-should-not-be-a-death-sentence-officials-respond-to-george-floyds-death/
  4. https://www.nytimes.com/2020/05/26/us/minneapolis-police-man-died.html
  5. https://www.fox9.com/news/4-minneapolis-police-officers-fired-following-death-of-george-floyd-in-police-custody
  6. Y plismon Derek Chauvin wedi’i gael yn euog o lofruddio George Floyd , Golwg360, 20 Ebrill 2021.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search