![]() | |
Math | talaith Tsieina ![]() |
---|---|
Prifddinas | Guangzhou ![]() |
Poblogaeth | 106,440,000, 107,240,000, 108,490,000, 109,990,000, 111,690,000, 113,460,000, 126,012,510 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Wang Weizhong ![]() |
Cylchfa amser | UTC+08:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-ddwyrain Tsieina ![]() |
Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 179,800 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Guangxi, Hunan, Jiangxi, Fujian, Hong Cong, Macau ![]() |
Cyfesurynnau | 23.4°N 113.5°E ![]() |
CN-GD ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Guangdong Provincial People's Congress ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Wang Weizhong ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | 11,076,090 million ¥, 12,436,970 million ¥ ![]() |
Un o daleithiau Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Guangdong, hefyd Canton (Tsieinëeg syml: 广东; Tsieinëeg draddodiadol: 廣東; pinyin: Guǎngdōng). Saif yn ne-ddwyrain y wlad, ger yr arfordir. Y brifddinas yn Guangzhou, a adwaenir hefyd fel dinas Canton. Mae'n ffinio ar Hong Cong, Macau, Guangxi, Hunan, Jiangxi a Fujian, gydag ynys Hainan gerllaw, yr ochr draw i Gulfor Hainan.
Guangdong yw talaith fwyaf poblog GPT, gyda phoblogaeth barhaol o 79 miliwn yn ogystal â 31 miliwn o fewnfudwyr dros dro yn byw yno yn 2005. Mae'r brifddinas, Guangzhou, a dinas Shenzhen ymysg dinasoedd mwyaf poblog a phwysicaf y wlad. Tsineaid Han yw mwyafrif y boblogaeth, gyda lleiafrif o'r Miao. Mae llawer o bobl wedi ymfudo o Guangdong i rannau eraill o'r byd, er enghraiift o Guangdong y daw mwyafrif Tsineaid Cymru yn wreiddiol.
Mae Guangdong yn un o daleithiau cyfoethogaf Tsieina, ac mae'n gyfrifol am tua 12% o gynnyrch economaidd y wlad. Yn 2008 roedd economi'r dalaith tua'r un faint ac economi Sweden.
![]() |
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina |
---|---|
Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search