Gwesty

Gwesty
Mathllety, menter Edit this on Wikidata
Rhan odiwydiant croeso, diwydiant gwesty, sector gwasanaeth bwyd a gwesty Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwesty'r Arth, y Bont-Faen, ym 1962
Gwesty Llao Llao, Bariloche, yr Ariannin

Sefydliad sy'n darparu llety am dâl am gyfnodau byr ydy gwesty. Yn y gorffennol, arferai llety elfennol olygu ystafell gyda gwely, cwpwrdd, bwrdd bychan a sinc ond i raddau helaeth mae ystafelloedd mewn gwestai mwy modern yn cynnwys cyfleusterau megis ystafell ymolchi en-suite a pheiriant rheoli'r tymheredd. Yn aml, ceir cyfleusterau ychwanegol fel ffôn, cloc larwm, teledu a chysylltiad i'r rhyngrwyd; gellir darparu byrbrydau a diodydd yn y bar-bychan, ac offer er mwyn gwneud diodydd poeth. Mae gan nifer o westai mwy o ran maint gyfleusterau fel bwytai, pyllau nofio, ac ystafelloedd cynadledda. Fel arfer, rhifir ystafelloedd mewn gwestai er mwyn i'r cwsmeriaid fedru adnabod eu hystafell.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search