Hanes morwrol Cymru

Agwedd ar hanes Cymru yw hanes morwrol Cymru sy'n ymwneud â pherthynas Cymru a'r Cymry â'r môr o'u hamgylch, gan gynnwys cludiant llongau, porthladdoedd, fforio, masnach morwrol, a môr-ladrad. Mae gan Gymru dros 1,180 km o arfordir, ac mae'n ffinio â Môr Iwerddon i'r gogledd a'r gorllewin, Sianel San Siôr a'r Môr Celtaidd i'r de-orllewin a Môr Hafren i'r de. Mae nifer o ddinasoedd a threfi mwyaf Cymru ger y môr, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Caernarfon, ac Aberystwyth. Ymysg y llongddrylliadau enwocaf ger arfordiroedd Cymru mae'r Rothsay Castle a'r Royal Charter. Ar 15 Chwefror 1996 tarodd y tancer olew Sea Empress y creigiau ger Sir Benfro gan arllwyso 72,000 tunnell fetrig o olew crai. Ar y pryd, hwn oedd yr arllwysiad olew trydydd fwyaf yn y byd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search