Harold Laski | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mehefin 1893 Manceinion |
Bu farw | 24 Mawrth 1950 Ysbyty'r Santes Fair |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | economegydd, gwleidydd, ysgrifennwr, academydd, gwyddonydd gwleidyddol, damcaniaethwr gwleidyddol, cyfieithydd |
Swydd | Labour Party Chair |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Gwyddonydd gwleidyddol, academydd, a gwleidydd Seisnig oedd Harold Joseph Laski (30 Mehefin 1893 – 24 Mawrth 1950).
Ganed ym Manceinion i deulu o Iddewon dosbarth-canol. Yn 1911, priododd â Frida Kerrey, Cristnoges, heb sêl bendith ei deulu. Astudiodd ewgeneg am gyfnod byr yng Ngholeg Prifysgol Llundain cyn iddo gychwyn ar gwrs hanes yng Ngholeg Newydd, Rhydychen. Derbyniodd ei radd yn 1914, a gweithiodd am gyfnod i bapur newydd y Daily Herald. Aeth i Ogledd America i addysgu gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol McGill, Montréal, o 1914 i 1916, ac yna ym Mhrifysgol Harvard o 1916 i 1920. Yno fe fu'n gyfeillgar â sawl barnwr a chyfreithegwr o fri, gan gynnwys Oliver Wendell Holmes, Jr., Louis Brandeis, a Felix Frankfurter.[1]
Dychwelodd Laski i Loegr yn 1920 ac ymgyrchodd ar gyfer y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1923. Penodwyd yn athro yn Ysgol Economeg Llundain yn 1926 ac addysgodd wyddor gwleidyddiaeth yno nes ei farwolaeth. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, trodd Laski yn Farcsydd, a dadleuodd y gallai trafferthion economaidd cyfalafiaeth arwain at gwymp democratiaeth. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd yn gynghorwr i'r Ddirprwy Brif Weinidog Clement Attlee. Yn 1945, penodwyd Laski yn gadeirydd y Blaid Lafur. Bu farw yn Llundain yn 56 oed.[1]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search