Hip hop

Mae Hip hop yn fath o gerddoriaeth ac yn fudiad diwylliannol; a ddatblygwyd yn Ninas Efrog Newydd ar ddechrau'r 1970au yn bennaf ymysg Americanwyr Affricanaidd ac Americanwyr o Dde America. Pedair prif elfen hip hop ydy gweithio fel MC neu Rhythm a Cherddi (yn Saesneg: Rhythm and Poetry) a elwir yn aml yn rapio, gweithio fel DJ, ysgrifennu graffiti a dawns breakdance. Mae elfennau eraill hefyd yn cynnwys bîtbocsio a ffasiwn hip hop. Ers datblygiad hip hop yn y Bronx, mae diwylliant hip hop wedi ymledu ar draws y byd.

Rhai enghreifftiau o artistiaid hip hop Americanaidd ydy Run DMC, Public Enemy, Monie Love, Salt-N-Pepa, Roxanna Shanté, Fugees, Kendrick Lamar, Beastie Boys, Nas, Notorious B.I.G., a Lil Nas X.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search