Hong Cong

Hong Cong
Mathrhanbarth gweinyddol arbennig, dinas, dinas fawr, metropolis, dinas global, rhestr tiriogaethau dibynnol, dinas-wladwriaeth, anheddiad dynol, customs territory of China Edit this on Wikidata
PrifddinasVictoria Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,413,070 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1997 (rhanbarth gweinyddol arbennig) Edit this on Wikidata
AnthemGorymdaith y Gwirfoddolwyr Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJohn Lee Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iDubai Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Cantoneg, Mandarin safonol, Tsieineeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGweriniaeth Pobl Tsieina, Dwyrain Asia Edit this on Wikidata
SirGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,105.69 km², 1,649.34 km², 2,755.03 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr7 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Shing Mun, Môr De Tsieina Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGuangdong, Shenzhen, Zhuhai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.28°N 114.16°E Edit this on Wikidata
CN-HK Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Hong Cong Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Deddfwriaethol Hong Cong Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weithredwr Hong Cong Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJohn Lee Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadBwdhaeth, Taoaeth, Conffiwsiaeth, Cristnogaeth, Hindŵaeth, Islam, Siciaeth, Iddewiaeth Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$368,911 million, $359,839 million Edit this on Wikidata
ArianDoler Hong Cong Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3.4 canran, 2.8 canran, 2.9 canran, 5.8 canran, 5.2 canran, 4.3 canran, 3.3 canran, 3.4 canran, 3.3 canran, 3.3 canran, 3.4 canran, 3.1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.234 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.952 Edit this on Wikidata

Un o ddau ranbarth gweinyddol arbennig Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Hong Cong (Tsieineeg: 香港); y llall yw Macau. Fe'i lleolir ar arfordir deheuol Tsieina wedi'i hamgylchynu gan delta'r Afon Perl a Môr De Tsieina,[1] ac mae'n enwog am ei nenlinell eang a'i harbwr naturiol dwfn. Gyda tirfas o 1,104 km2 (426 mi sgw) a phoblogaeth o saith miliwn o bobl, Hong Cong yw un o'r ardaloedd mwyaf dwys ei phoblogaeth yn y byd.[2] Mae 95 y cant o boblogaeth Hong Cong yn Tsieineaidd a 5 y cant o grwpiau ethnig eraill.[3] Daw'r mwyafrif Han yn bennaf o ddinasoedd Guangzhou a Taishan yn y dalaith gyfagos, Guangdong.[4] Daeth Hong Cong yn drefedigaeth gan yr Ymerodraeth Brydeinig wedi'r Rhyfel Opiwm Cyntaf (1839–42). Yn wreiddiol Ynys Hong Cong yn unig oedd dan reolaeth y Prydeinwyr, ond ehangodd ffiniau'r drefedigaeth i gynnwys Gorynys Kowloon ym 1860 a'r Tiriogaethau Newydd ym 1898. Cafodd ei feddiannu gan Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi'r rhyfel atfeddiannodd Brydain Hong Cong hyd drosglwyddo sofraniaeth i Tsieina ym 1997.[5][6] Yn ystod ei chyfnod trefedigaethol mabwysiadodd llywodraeth Hong Cong bolisi o ymatal rhag ymyrryd yn yr economi dan yr ethos o anymyrraeth bositif.[7] Cafodd y cyfnod hwn ddylanwad mawr ar ddiwylliant Hong Cong, a elwir yn aml yn "cwrdd rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin",[8] ac roedd y system addysg yn arfer dilyn system Lloegr[9] nes iddi gael ei diwygio yn 2009.[10] Dan yr egwyddor "un wlad, dwy system", mae gan Hong Cong system wleidyddol wahanol i dir mawr Tsieina.[11] Gweithreda barnwriaeth annibynnol Hong Cong dan fframwaith y gyfraith gyffredin.[12][13] Llywodraethir y system wleidyddol gan Gyfraith Sylfaenol Hong Cong, dogfen gyfansoddiadol sy'n mynnu i Hong Cong gael "gradd uchel o hunanlywodraeth" mewn pob mater ac eithrio cysylltiadau tramor ac amddiffyniad milwrol.[14][15] Er bod ei system amlbleidiol yn tyfu, mae etholyddiaeth fechan yn rheoli hanner y Cyngor Deddfwriaethol. Hynny yw, dewisir Prif Weithredwr Hong Cong, sef pennaeth y llywodraeth, gan Bwyllgor Etholiadol o 400 i 1,200 o aelodau, a bydd y system hon yn gweithredu am y 20 mlynedd gyntaf dan sofraniaeth Tsieina.[16][17][18][19] Mae Hong Cong yn un o brif ganolfannau ariannol y byd, a chanddi economi gwasanaethau cyfalafol gyda threthi isel a masnach rydd. Yr arian cyfred, sef doler Hong Cong, yw'r wythfed arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd.[20]

  1. "Geography and Climate, Hong Kong" (PDF). Census and Statistics Department, Llywodraeth Hong Cong. Cyrchwyd 10 Ionawr 2007.
  2. Ash, Russell (2006). The Top 10 of Everything 2007. Hamlyn. t. 78. ISBN 0-600-61532-4.
  3. "Population by Ethnicity, 2001 and 2006". Census and Statistics Department, Llywodraeth Hong Cong. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-08. Cyrchwyd 4 Hydref 2010.
  4. Fan Shuh Ching (1974). "The Population of Hong Kong". World Population Year (Committee for International Coordination of National Research in Demography): 18–20. http://www.cicred.org/Eng/Publications/pdf/c-c21.pdf. Adalwyd 25 Awst 2010.
  5. "Joint Declaration of the Government of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland and the Government of the People's Republic of China on the Question of Hong Kong". Constitutional and Mainland Affairs Bureau, Hong Kong Government. 19 December 1984. Cyrchwyd 4 Hydref 2010. The Government of the People's Republic of China declares that to recover the Hong The Government of the People's Republic of China declares that to recover the Hong Kong area (including Hong Kong Island, Kowloon and the New Territories, hereinafter referred to as Hong Kong) is the common aspiration of the entire Chinese people, and that it has decided to resume the exercise of sovereignty over Hong Kong with effect from 1 Gorffennaf 1997.
  6. "On This Day: 1997: Hong Kong handed over to Chinese control". BBC News. 1 Gorffennaf 1997. Cyrchwyd 9 Medi 2008.
  7. "The World's Most Competitive Financial Centers". CNBC. Cyrchwyd 30 Hydref 2009.
  8. "24 hours in Hong Kong: Urban thrills where East meets West". CNN. 8 Mawrth 2009. Cyrchwyd 27 Mai 2009.
  9. Chan, Shun-hing; Leung, Beatrice (2003). Changing Church and State Relations in Hong Kong, 1950–2000. Gwasg Prifysgol Hong Cong. t. 24. ISBN 962-209-612-3.
  10. "Programme Highlights". Hong Kong Government. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 20 Hydref 2010.
  11. So, Dudley L.; Lin, Nan; Poston (2001). The Chinese Triangle of Mainland China, Taiwan and Hong Kong. Greenwood Publishing. tt. 13–29. ISBN 0-313-30869-1.
  12. "Basic Law, Chapter IV, Section 4". Basic Law Promotion Steering Committee. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-27. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2009.
  13. Russell, Peter H.; O'Brien, David M. (2001). Judicial Independence in the Age of Democracy: Critical Perspectives from around the World. University of Virginia Press. t. 306. ISBN 978-0-8139-2016-0.
  14. "Basic Law, Chapter II". Basic Law Promotion Steering Committee. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-29. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2009.
  15. Ghai, Yash P. (2000). Autonomy and Ethnicity: Negotiating Competing Claims in Multi-ethnic States. Cambridge University Press. tt. 92–97. ISBN 978-0-521-78642-3.
  16. "Decision of the National People's Congress on the Method for the Formation of the First Government and the First Legislative Council of the Hong Kong Special Administrative Region". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-18. Cyrchwyd 21 Chwefror 2012.
  17. "Basic Law, Chapter IV, Section 1". Basic Law Promotion Steering Committee. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-27. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2009.
  18. "Amendment to Annex I to the Basic Law of the Hong Kong Special Administrative Region of the People's Republic of China Concerning the Method for the Selection of the Chief Executive of the Hong Kong Special Administrative Region" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-07-24. Cyrchwyd 2012-07-15.
  19. Rioni, S. G. (2002). Hong Kong in Focus: Political and Economic Issues. Nova Publishers. tt. 9–10. ISBN 978-1-59033-237-5.
  20. "Triennial Central Bank Survey: Report on global foreign exchange market activity in 2010". Monetary and Economic Department (Bank for International Settlements): 12. December 2010. http://www.bis.org/publ/rpfxf10t.pdf. Adalwyd 15 Hydref 2011.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search