Ieithoedd Celtaidd

Celteg
Dosraniad
daearyddol:
Siaredid hwy'n eang ar draws Ewrop, ond erbyn heddiw yn Ynysoedd Prydain, Llydaw, Patagonia a Nova Scotia
Dosraniad Ieithyddol: Indo-Ewropeaidd
 Celteg
Israniadau:
ISO 639-2 a 639-5: cel

Mae'r ieithoedd Celtaidd yn tarddu o Gelteg (hefyd ‘Celteg Cyffredin’), cangen orllewinol o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Defnyddiwyd y term "Celteg" gyntaf i ddisgrifio'r grŵp hwn o ieithoedd gan Edward Lhuyd ym 1707.[1]

Siaredir yr ieithoedd Celtaidd yn bennaf ar ymylon gorllewin Ewrop, yn enwedig yng Nghymru, yr Alban, Iwerddon, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw, ac fe'u ceir ar Ynys Cape Breton yng Nghanada ac yng Ngwladfa Patagonia yn yr Ariannin. Gellir cael hyd i rai sy'n siarad yr ieithoedd mewn ardaloedd y bu siaradwyr ieithoedd Celtaidd yn ymfudo iddynt hefyd, fel yr Unol Daleithiau,[2] Canada, Awstralia,[3] a Seland Newydd.[4] Yn yr ardaloedd hyn i gyd, gan leiafrif o bobl y siaredir yr ieithoedd Celtaidd, er bod ymdrechion i'w hadfywio. Y Gymraeg yw'r unig iaith nad yw UNESCO yn ei dosbarthu'n iaith mewn perygl.

Yn ystod y mileniwm cyntaf CC, fe siaredid yr ieithoedd Celtaidd ar draws Ewrop, ar yr Orynys Iberaidd, o lannau Môr Iwerydd a Môr y Gogledd, drwy ddyffrynnoedd Rhein a Donwy hyd at y Môr Du, Gorynys Uchaf y Balcanau ac yng Ngalatia yn Asia Leiaf. Aeth Gaeleg yr Alban i Ynys Cape Breton a'r Gymraeg i Batagonia yn ystod y cyfnodau modern. Câi ieithoedd Celtaidd, yn enwedig yr Wyddeleg, eu siarad yn Awstralia cyn y cyfuno ym 1901 ac maent yn cael eu defnyddio yna o hyd i ryw raddau.

  1. Cunliffe, Barry W. 2003. The Celts: a very short introduction. tud.48
  2. "Language by State - Scottish Gaelic" Archifwyd 2012-01-11 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Modern Language Association. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  3. "Languages Spoken At Home" o wefan Llywodraeth Awstralia Office of Multicultural Interests. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  4. Languages Spoken:Total Responses o wefan Statistics New Zealand. Adalwyd 5 Awst 2008

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search