Is-set

Is-set
Diagram Euler yn dangos:
A yw is-set B (AB.). Y gwrthwyneb i hyn yw fod B yn is-set o A.
Enghraifft o'r canlynolperthynas ddeuaidd Edit this on Wikidata
Mathisddosbarth, set Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebuwch-set Edit this on Wikidata
Rhan oset, power set Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn mathemateg, mae set A yn is -set o set B os yw holl elfennau A hefyd yn elfennau o B; mae B yn uwch-set o A. Mae'n bosibl i A a B fod yn gyfartal; os ydyn nhw'n anghyfartal, yna mae A yn is-set briodol o B. Gelwir perthynas un set yn is-set o set arall yn gynhwysiant (inclusion). Gellir mynegi fod A yn is-set o B hefyd drwy ddweud fod B yn cynnwys A neu drwy ddweud fod A wedi'i gynnwys yn B.

Mae perthynas (neu'r cysylltiad) yr is-set yn diffinio trefn rannol y setiau. Mewn gwirionedd, mae is-setiau o set benodol yn ffurfio algebra Boole dan berthynas yr is-set, lle mae'r 'uno a chyfarfod' yn cael eu rhoi trwy groestoriad ac uniad, a'r berthynas is-set ei hun yw perthynas cynhwysiant Boole .


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search