Jan Hus | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Paulus Constantius ![]() |
Ganwyd | 1369, c. 1372, c. 1371, c. 1370 ![]() Husinec ![]() |
Bu farw | 6 Gorffennaf 1415 ![]() Konstanz ![]() |
Man preswyl | Man geni Jan Hus ![]() |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Bohemia, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, diwinydd, academydd, llenor, athronydd, gweinidog bugeiliol, ieithydd, athro, pregethwr, henuriad, bohemegydd ![]() |
Swydd | athro cadeiriol ![]() |
Cyflogwr | |
Dydd gŵyl | 6 Gorffennaf ![]() |
llofnod | |
Diwinydd a diwygiwr Cristnogol o Fohemia oedd Jan Hus ( ynganiad ; oddeutu 1370 – 6 Gorffennaf 1415) a gychwynnodd fudiad Husiaeth ac a sbardunodd, trwy ei ferthyrdod, y Diwygiad Bohemaidd. Efe oedd un o'r prif arweinwyr rhag-Brotestanaidd.
Ganed ef yn Husinec, Teyrnas Bohemia, i deulu tlawd, ac astudiodd ym Mhrifysgol Prag. Yno cafodd ei ordeinio'n offeiriad, a fe'i penodwyd yn athro diwinyddol a deon yr adran athroniaeth. Dylanwadwyd arno gan waith John Wycliffe, a daeth i'r farn bod angen diwygiad mawr ar yr Eglwys Gatholig. Yn ei bregethau, dadleuai'n erbyn nifer o agweddau llygredig y glerigiaeth a'r Babaeth, a mynnai safbwyntiau ei hun ar eglwyseg, simoniaeth, a'r Ewcarist.
Ystyriodd yr Eglwys Gatholig ei ddysgeidigaethau yn heresi, ac felly fe'i hesgymunwyd gan y Pab Alecsander V. Fodd bynnag, ni chafodd y gorchymyn ei orfodi, a ni rhoddwyd taw ar lais Hus. Ennynodd ddicter Ioan XXIII, olynydd Alecsander V, trwy ladd ar yr arfer o werthu maddeuebau. Cafodd yr esgymuniad ei orfodi, a gyrrwyd Hus yn alltud. Galwyd Hus i ymddangos gerbron Cyngor Konstanz i amddiffyn ei ddysgeidiaeth. Yno cafodd ei arestio a'i daflu i'r ddalfa. O'r diwedd, fe'i rhoddwyd ar brawf ar gyhuddiad o heresi, ac wedi iddo wrthod dadgyffesu, fe'i condemniwyd i farwolaeth a'i losgwyd wrth y stanc yn Konstanz.
Wedi ei ddienyddiad, cynyddodd niferoedd a radicaliaeth yr Husiaid, a gwrthryfelasant yn erbyn y drefn Gatholig yn y Tiroedd Tsiec. Gwrthsefyllasant sawl croesgad yn eu herbyn yn Rhyfeloedd yr Husiaid, ac ym 1436 daethant i gyfaddawd â'r eglwys. Byddai poblogaethau Bohemia a Morafia yn fwyafrifol Husaidd hyd at fethiant Gwrthryfel Bohemia yn y 1620au, pan orfodwyd i'r bobl droi'n Gatholigion unwaith eto.
Mae ei ysgrifau sylweddol yn llunio rhan bwysig o lenyddiaeth Tsieceg yr Oesoedd Canol, ac ystyrir Hus fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd. Dethlir gŵyl gyhoeddus ar 6 Gorffennaf, diwrnod ei ddienyddiad, yn y Weriniaeth Tsiec er parch iddo.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search