Jan Palach | |
---|---|
Ganwyd | 11 Awst 1948 ![]() Londýnská, Všetaty ![]() |
Bu farw | 19 Ionawr 1969 ![]() Prag, Borůvkovo hospital ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Tsiecoslofacia, Gwladwriaeth Sosialaidd Tsiecoslofac, Tsiecoslofacia ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | myfyriwr mewn prifysgol ![]() |
Gwobr/au | Order of Tomáš Garrigue Masaryk, 1st class, Čestná medaile T. G. Masaryka ![]() |
Myfyriwr Tsiecaidd oedd Jan Palach (11 Awst 1948 – 19 Ionawr 1969), a losgodd ei hunan i farwolaeth ym Mhrag yn Ionawr 1969 mewn protest yn erbyn goresgyniad Tsiecoslofacia gan luoedd Cytundeb Warsaw yn sgîl Gwanwyn Prag. Rhoddodd ei hun ar dân ar yr 16ed o Ionawr, a bu farw tridiau wedyn ar y 19fed.
Trodd angladd Palach yn brotest fawr yn erbyn y goresgynwyr Sofietaidd. Fis yn ddiweddarach (ar 25 Chwefror), llosgodd myfyriwr arall, Jan Zajíc, ei hun i farwolaeth yn yr un lle. Dilynwyd hyn ym mis Ebrill yr un flwyddyn gan Evžen Plocek yn Jihlava, a chan eraill wedyn. Efelychwyd y weithred hon (hunan-losgi) mewn gwledydd eraill Cytundeb Warsaw, ee yn Hwngari Sándor Bauer ar 20 Ionawr 1969 a Hwngariad arall, Márton Moyses ar 13 Chwefror 1970.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search