Jericho

Jericho
Mathdinas, tell Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlYarikh Edit this on Wikidata
Poblogaeth23,220 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 96 g CC (tua) Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Pisa, Campinas, Kragujevac, Ilion, Calipatria, Iași, Lærdal Municipality, Eger, San Giovanni Valdarno, Lyon, Alessandria, Naoned, Santa Bárbara d'Oeste, Osmangazi Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Jericho Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Arwynebedd59 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr−275 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.8561°N 35.4631°E Edit this on Wikidata
Map

Jericho (Arabeg: أريحاArīḥā[ʔaˈriːħaː] (Ynghylch y sain ymagwrando); Hebraeg Yeriḥo) yn ddinas Balesteinaidd yn y Lan Orllewinol. Mae wedi'i lleoli yn Nyffryn Iorddonen, gydag Afon Iorddonen i'r dwyrain a Jeriwsalem i'r gorllewin. Dyma sedd weinyddol Llywodraethiaeth Jericho ac mae'n cael ei llywodraethu gan Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (y PLO).[1] Yn 2007, roedd ganddi boblogaeth o 18,346.

Yn dilyn ymyrraeth Prydain, atodwyd y ddinas yn rhan o Wlad Iorddonen rhwng 1949 a 1967 ac mae wedi cael ei feddiannu gan Israel ers 1967; trosglwyddwyd rheolaeth weinyddol Palesteina i Awdurdod Palestina ym 1994.[2][3] Credir ei bod yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd a cheir tystiolaeth i bobl fyw yma ers 9g CC.[4][5][6] Hi hefyd yw' ddinas gyda'r wal amddiffynnol hynaf y gwyddys amdani yn y byd, ac mae'r wal yn nodedig mewn caneuon poblogaidd hyd heddiw..[7] Cafwyd hyd i dros 20 o aneddiadau dynol yn Jericho, sy'n dyddio'n ôl 11,000 o flynyddoedd (9000 CC),[8][9] bron i ddechrau cyntaf y cyfnod Holosen yn hanes y Ddaear.[10][11] Credwyd bod gan Jericho y tŵr carreg hynaf yn y byd hefyd, ond mae gwaith cloddio yn Tell Qaramel yn Syria, gerllaw, wedi darganfod tyrau cerrig sydd hyd yn oed yn hŷn.[12][13]

Gwelir llawer o ffynhonnau yn y ddinas ac o'i chwmpas, sydd wedi denu pobl i fyw yn yr ardal,t am filoedd o flynyddoedd.[14] Disgrifir Jericho yn y Beibl Hebraeg fel "dinas y coed palmwydd".

Mae'r ddau enw Arabeg (ʼArīḥā) a Hebraeg (Yeriẖo) yn tarddu o'r gair Canaan Reah sy'n golygu arogl da neu o bosib 'lleuad' (Yareaẖ)

Credir yn gyffredinol bod enw Jericho yn Hebraeg, Yeriẖo, yn deillio o'r gair Canaaneaidd reaẖ ("persawrus"), ond damcaniaeth arall yw ei fod yn tarddu o'r gair Canaaneaidd am 'lleuad' (Yareaẖ) neu enw'r duw lleuad (Yarikh), yr oedd y ddinas yn ganolfan addoli gynnar iddo.[15]

  1. Kershner, Isabel (6 Awst 2007). "Abbas hosts meeting with Olmert in West Bank city of Jericho". The New York Times. United States. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2016.
  2. "The lost Jewish presence in Jericho".
  3. Palestinian farmers ordered to leave lands Al Jazeera. 29 Awst 2012
  4. Gates, Charles (2003). "Near Eastern, Egyptian, and Aegean Cities", Ancient Cities: The Archaeology of Urban Life in the Ancient Near East and Egypt, Greece and Rome. Routledge. t. 18. ISBN 0-415-01895-1. Jericho, in the Jordan River Valley in the West Bank, inhabited from ca. 9000 BC to the present day, offers important evidence for the earliest permanent settlements in the Near East.
  5. Murphy-O'Connor, 1998, p. 288.
  6. Freedman et al., 2000, p. 689–671.
  7. Michal Strutin, Discovering Natural Israel (2001), p. 4.
  8. Akhilesh Pillalamarri (18 April 2015). "Exploring the Indus Valley's Secrets". The diplomat. Cyrchwyd 18 April 2015.
  9. "Jericho – Facts & History".
  10. "What is the oldest city in the world?".
  11. "The world's 20 oldest cities".
  12. Anna Ślązak (21 Mehefin 2007). "Yet another sensational discovery by Polish archaeologists in Syria". Science in Poland service, Polish Press Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Hydref 2011. Cyrchwyd 23 Chwefror 2016.
  13. R.F. Mazurowski (2007). "Pre- and Protohistory in the Near East: Tell Qaramel (Syria)". Newsletter 2006. Polish Centre of Mediterranean Archaeology, Warsaw University. Cyrchwyd 23 Chwefror 2016.
  14. Bromiley, 1995, p. 715
  15. Schreiber, 2003, p. 141.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search