LHDT

Flag enfys LHDT+

Mae'r talfyriad LHDT (Saesneg: LGBT) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsryweddol. Mae'n addasiad o'r talfyriad hŷn LHD. Er ei fod yn dal yn ddadleuol, caiff ei ystyried yn llai dadleuol na queer ac yn fwy cynhwysfawr na chyfunrywiol neu hoyw.

Mae nifer o amrywiaethau yn bodoli. Mae'r rhai mwyaf cyffredin yn ychwanegu Q am queer, C am cwestiynu neu cynghreiriaid, A am anrhywiol neu am arall i gynnwys pob term posib, D arall am Dau-Enaid, Rh am rhyngrywiol, neu H arall am hollrywiol. Un amrywiad mwy cynhwysol ar LHDT sy'n gyffredin yw LHDTQRh+, sef lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsr, queer, rhyngrywiol a mwy, neu LGBTQI+ yn Saesneg.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search