Llanelli (etholaeth seneddol)

Llanelli
Etholaeth Sir
Llanelli yn siroedd Cymru
Creu: 1918
Math: Tŷ'r Cyffredin
AS presennol: Nia Griffith (Llafur)
Pwnc yr erthygl hon yw etholaeth seneddol Llanelli. Am ddefnydd arall o'r enw Llanelli gwelir y dudalen gwahaniaethu ar Lanelli.

Mae etholaeth Llanelli yn etholaeth seneddol sy'n cael ei chynrychioli yn Senedd San Steffan gan un Aelod Seneddol. Yr Aelod Seneddol presennol yw Nia Griffith (Llafur).

Ymestynna'r etholaeth o Dŷ-croes i lawr y Gwendraeth drwy Cross Hands, Y Tymbl, Pontyberem, Pont-iets, Trimsaran ac i Gydweli, ac o Gydweli gyda'r arfordir i'r Bynea ac i'r Hendy.

Mae Llafur wedi rheoli'r etholaeth seneddol hon ers 1922. Enillwyd y sedd i Lafur yn wreiddiol gan Dr John Henry Williams a wasanaethodd fel Aelod Seneddol am 14 mlynedd. Fe'i olynwyd gan James Griffiths (Jim Griffiths), a bu'n Aelod Seneddol am 34 mlynedd. Yna, daeth Denzil Davies i gynrychioli'r etholaeth dros Lafur, a daliodd y swydd am 35 mlynedd. Ymddeolodd Denzil Davies cyn etholiad cyffredinol 2005.

Yn hanesyddol mae Llanelli wedi bod yn etholaeth ddiwydiannol, ond gyda difodiad y gweithfeydd glo a'r gwaith tun mae pwyslais erbyn hyn ar dwristiaeth.

Yn hanesyddol dyma'r etholaeth ddiwydiannol sydd a'r mwyaf o Gymry Cymraeg ynddi. 52% yn 1981.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search