Madeira

Madeira
ArwyddairDas Ilhas as Mais Belas e Livres Edit this on Wikidata
Mathun o ranbarthau ymreolaethol Portiwgal, tiriogaeth dramor gyfannol, isranbarth Portiwgal, etholaeth Edit this on Wikidata
PrifddinasFunchal Edit this on Wikidata
Poblogaeth250,769 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1976 Edit this on Wikidata
AnthemHino da Região Autónoma da Madeira Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMiguel Albuquerque Edit this on Wikidata
Cylchfa amserWestern European Time Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPortiwgal Edit this on Wikidata
GwladBaner Portiwgal Portiwgal
Arwynebedd801 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.75°N 17°W Edit this on Wikidata
PT-30 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLegislative Assembly of Madeira Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of the Regional Government of Madeira Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMiguel Albuquerque Edit this on Wikidata
Map

Clwstwr o ynysoedd o darddiad folcanig yng ngogledd Cefnfor Iwerydd yw Madeira. Mae'n un o ranbarthau ymreolaethol Portiwgal. Ynys Madeira yw'r brif ynys; mae'r ynysoedd eraill yn cynnwys Porto Santo i'r gogledd-ddwyrain a dau grŵp o ynysoedd anghyfannedd i'r de-ddwyrain: y Desertas a'r Selvagens. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 267,785. Y prifddinas yw Funchal a leolir ar arfordir heulog y de; mae bron i hanner y boblogaeth yn byw yn Funchal.

Mae'n nodedig am ei win (win Madeira), ac fel llecyn twristaidd, ac mae'r ynys yn cynhyrchu banana, paw paw, gellyg pigog, tomatos, siwgr câns a lemonau. Tyfir y rhain ar lethrau a dyllwyd ganrifoedd yn ôl.

Gyda'r chwaer ynys Azores, mae'n un o ddwy ranbarth ymreolaethol ym Mhortiwgal. Ceir disgrifiadau o'r ynysoedd o gyfnod y Rhufeiniaid ond nid hawliwyd yr ynys gan Bortiwgal tan 1419, a chychywynwyd ei gwladych un 1420. Dyma'r ynys gyntaf i Bortiwgal ei meddiannu, a dilynwyd hyn gan nifer o diroedd rhwng 1415 a 1542.

Mae'r gaeafau'n fwyn a'r hafau'n hir, heb fod yn rhy boeth. Daw oddeutu miliwn o ymwelwyr yma am seibiant yn flynyddol, yn benaf am ei thywydd hyfryd, ei hamrywiaeth blodau ac adar a'i golygfeydd.[1] Mae ei choedwigoedd llawryf yn hynafol ac yn cael eu gwarchod gan UNESCO, sy'n Safle Treftadaeth y Byd. Ni anrhaethwyd fauna a flora (planhigionac anifeiliaid) yr ynys gan yr Oes Iâ Ewropeaidd. Y prif harbwr yw Funchal, y brifddinas, sef porthladd mwyaf Portiwgal o ran cychod criws a llongau pleser eraill.[2] Madeira yw ail ranbarth mwyaf cyfoethog Portiwgal, o ran ei GDP (Cynnyrch mewnwladol crynswth) y pen, gyda Lisbon ychydig yn well na hi.[3]

  1. "Hotelaria da Madeira suaviza quebras em 2010 apesar de impacto devastador dos temporais". presstur.com. October 2, 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 16 Medi 2011.
  2. "Madeira welcomes most cruisers". The Portugal News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-12. Cyrchwyd 12 Mawrth 2013.
  3. "New Eurostat website - Eurostat". Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2016.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search