Maer

Talat Chaudhri, Maer Cyngor Tref Aberystwyth 2018-19, tu allan Llyfrgell Tref Aberystwyth

Mewn llawer o wledydd, maer (o'r Lladin maior [majˈjɔr], sy'n golygu "mwy") yw'r swyddog o'r radd uchaf mewn llywodraeth ddinesig fel dinas, bwrdeistref neu dref.

Ledled y byd, mae amrywiant eang mewn deddfau ac arferion lleol o ran pwerau a chyfrifoldebau maer yn ogystal â'r modd y mae maer yn cael ei ethol neu ei fandadu fel arall. Yn dibynnu ar y system a ddewisir, gall maer fod yn brif swyddog gweithredol y llywodraeth ddinesig, gall gadeirio corff llywodraethu aml-aelod heb fawr o bŵer annibynnol, os o gwbl, neu gall chwarae rôl seremonïol yn unig. Ymhlith yr opsiynau ar gyfer dewis maer mae etholiad uniongyrchol gan y cyhoedd, neu ddethol gan gyngor llywodraethu etholedig neu fwrdd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search