Mantra

Mantra
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathchant Edit this on Wikidata
GwladIndia, Iran Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2000 (yn y Calendr Iwliaidd) CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mantra Bwdhaidd ar gerddoriaeth draddodiadol o India. (6 munud 19 eiliad)[1]

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Ynganiad cysegredig yw mantra neu mantram (Sansgrit: मन्त्र /ˈmʌntrə/ Pali: mantaṃ) sy'n air neu'n ffonem, neu grŵp o eiriau yn Sansgrit, Pali ac ieithoedd eraill y cred ymarferwyr fod â phwerau crefyddol, hudol neu ysbrydol.[2][3] Mae gan rai mantrâu strwythur cystrawennol ac ystyr lythrennol, tra nad oes gan eraill.[4]

Y symbol Om - mantra yn yr ysgol Vedanta o Hindwiaeth.
Om Mani Padme Hum, mantra Bwdhaidd wedi'i ysgrifennu yn yr ysgrifen Dibetaidd gyda Steil Mandala

Cyfansoddwyd y mantrâu cynharaf yn y Fedeg yn India tua 2000-1000 CC.[5] Ar ei symlaf, mae'r gair ॐ (Aum, Om) yn gwasanaethu fel mantra, credir mai hwn yw'r sain a lefarwyd gan berson ar y ddaear. Mae sain aum wrth ei gynhyrchu yn creu atseinedd yn y corff sy'n helpu'r corff a'r meddwl i fod yn dawel, digynwrf. Mewn ffurfiau mwy soffistigedig, yn ymadroddion melodig gyda dehongliadau ysbrydol fel hiraeth ddynol am wirionedd, realiti, goleuni, anfarwoldeb, heddwch, cariad, gwybodaeth a gweithredu.[2][5][6]

Mae'r defnydd, strwythur, swyddogaeth, pwysigrwydd, a mathau o fantras yn amrywio yn ôl ysgol ac athroniaeth Hindŵaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth a Siciaeth.[3][7] Yn nhraddodiad Shingon Japan, ystyr y gair Shingon yw mantra.[8] Mae emynau, gwrthffonau, siantiau, cyfansoddiadau a chysyniadau tebyg i'w cael yn Zoroastriaeth,[9] Taoaeth, Cristnogaeth, ac mewn mannau eraill.[2] Mae mantrâu yn chwarae rhan ganolog mewn tantra.[5][10] Yn yr ysgol hon o feddwl, ystyrir bod mantrâu yn fformiwla gysegredig ac yn ddefod bersonol iawn, sy'n cael effaith, dim ond ar ôl cychwyn eu llefaru. Mewn ysgolion eraill Hindŵaeth, Bwdhaeth, Jainiaeth neu Siciaeth, nid yw cychwyn yn ofyniad.[6][9]

  1. Llafarganu Bwdhaiddt. Geiriau mewn Pali: Buddham saranam gacchami, Dhammam saranam gacchami, Sangham saranam gacchami. Mewn Sansgrit: Buddham saranam gacchâmi, Dharmam saranam gacchâmi, Sangham saranam gacchâmi. Ystyr: Rwy'n mynd am loches ym Mwdha, dwi'n mynd am loches mewn dysgeidiaeth Bwdhaidd, dwi'n mynd am loches mewn Mynachiaeth Bwdhaidd.
  2. 2.0 2.1 2.2 Jan Gonda (1963). The Indian Mantra. 16. Oriens. tt. 244–297.
  3. 3.0 3.1 Feuerstein, Georg (2003), The Deeper Dimension of Yoga. Shambala Publications, Boston, MA
  4. James Lochtefeld, The Illustrated Encyclopedia of Hinduism, Volume 2, ISBN 0-8239-2287-1, pages 422–423
  5. 5.0 5.1 5.2 Frits Staal (1996). Rituals and Mantras, Rules without meaning. Motilal Banarsidass. ISBN 978-8-12081-412-7.
  6. 6.0 6.1 Alper, Harvey (1991). Understanding mantras. Delhi: Motilal Banarsidass. ISBN 978-81-208-0746-4. OCLC 29867449.
  7. Nesbitt, Eleanor M. (2005), Sikhism: a very short introduction, Oxford University Press, ISBN 978-0-19-280601-7
  8. Law, Jane Marie (1995). Religious Reflections on the Human Body. Indiana University Press. tt. 173–174. ISBN 0-253-11544-2. Cyrchwyd 16 Hydref 2016.
  9. 9.0 9.1 Boyce, M. (2001), Zoroastrians: their religious beliefs and practices, Psychology Press
  10. Goudriaan, Teun (1981). Hindu tantric and Śākta literature. Wiesbaden: Harrassowitz. t. Chapter VIII. ISBN 978-3-447-02091-6. OCLC 7743718.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search