![]() | |
Enghraifft o: | dosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | strwythur amlgellog, strwythur anatomegol, sylwedd biogenig, biological material ![]() |
Rhan o | organ ![]() |
![]() |
Casgliad neu grŵp o gelloedd ydy meinwe. Mae meinweoedd i gyd yn tarddu o'r un lle, ond er eu bod wedi eu creu o'r un math o gell yn wreiddiol, maent yn newid eu siâp a'u pwrpas drwy arbenigo mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Er mwyn gweithredu, mae sawl cell o whanol siapiau yn cyfuno i greu meinwe arbennig, unir y gwahanol feinweoedd i greu organ.
Histoleg ydy'r enw ar yr astudiaeth o'r feinwe. Defnyddir y meicrosgop a'r bloc paraffîn yn draddodiadol wrth eu hastudio. Mae datblygiadau technegol y ddau ddegawd diwethaf, yn enwedig gyda'r meicrosgop electron a'r defnydd o feinwe wedi'i rhewi, yn golygu y gellir gweld llawer mwy o fanylder o fewn y feinwe. Mae hyn yn golygu y gallwn adnabod afiechydon yn llawer cynt, a chreu ateb i lawer o broblemau yn ymwneud ag afiechydon.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search