Merlyn mynydd Cymreig

Merlen mynydd Gymreig 16 oed
Merlod mynydd y Carneddau: dwy gaseg feichiog ger Bwlch Sychnant

Mae'r merlyn mynydd Cymreig Adran A (amrywiadau: merlen mynydd Cymreig neu merlen bach y mynydd) yn frîd arbennig o ferlyn sy'n unigryw i fynyddoedd a bryniau Cymru, ac yn un o bedair adran y Merlyn Cymreig. Mae'n frîd ers o leiaf 500 o flynyddoedd ac mae'n digon posibl bod y merlod hynod hyn yn ddisgynyddion o ferlod y Celtiaid ac felly wedi bod yn rhan o fywyd mynyddoedd Cymru am 3000 mlynedd neu ragor. Yn yr Oesoedd Canol, cyn gyflwyno meirch trwm ar gyfer marchogion llawn arfog, arferai rhyfelwyr Cymry farchogaeth merlod bychain fel y rhain (ond dim i'w defnyddio i ymladd), a oedd yn gyflym ar dir anwastad y bryniau.

Yn y gorffennol, roedd y merlod hyn yn olygfa gyffredin ar fryniau Cymru, o Eryri i Frycheiniog. Erbyn heddiw ceir y canran mwyaf ohonynt yn Eryri, rhannau o ganolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog. Amcangyfrifir fod tua 400-500 o ferlod mynydd Cymreig ar fryniau gogledd Cymry, yn Eryri yn bennaf, gyda tua eu hanner i'w cael ar y Carneddau.

Mae'r merlyn mynydd yn chwarae rhan bwysig mewn cadwriaeth. Nid yw'n bwyta grug a blodau gwyllt, fel mae defaid yn wneud, ac felly mae'n cadw cynefin adar gwyllt.

Mae'r merlod yn byw mewn preiddiau o hyd at 30 o gesig dan un stalwyn. Unwaith y flwyddyn caent eu corlannu am gyfnod byr er mwyn cymryd a gofalu am rai o'r ebolion a enir ar ddechrau'r gwanwyn. Ar wahân i hynny, treuliant eu holl amser yn rhydd ar y mynydd heb ymyrraeth gan eu gwneud y peth agosaf at geffylod gwyllt yng ngwledydd Prydain.

Yn ogystal â'r merlod gwyllt sy'n byw ar y bryniau, ceir stoc o ferlod mynydd Cymreig ar ffermydd bridio yng Nghymru a'r tu hwnt, e.e. yn yr Unol Daleithiau. Maent yn ffefrynnau gan farchogwyr ifainc.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search