Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

Fideo gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu'r 'Mesur Arfaethedig' gan yn Ebrill 2020.

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Saesneg: Welsh Language (Wales) Measure 2011) sy'n newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010[1] a daeth i rym ar 9 Chwefror 2011 pan dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol gan Frenhines y Du.[2]

Drwy'r mesur hwn y creewyd swydd ac adran Comisiynydd y Gymraeg, gan ddod a Bwrdd yr Iaith Gymraeg i ben. Penodir gan y Prif Weinidog a bydd ganddo ef neu hi'r pŵer i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat, megis cwmnïau nwy, trydan, a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i'r iaith.[3] Cyhoeddwyd yn Hydref 2011 mai Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, fydd y Comisiynydd Iaith newydd,[4] a bydd hi'n gadael ei swydd fel Cadeirydd y Bwrdd yn gynnar yn Chwefror 2012 er mwyn gallu paratoi ar gyfer y swydd newydd a ddechreua yn Ebrill 2012 yn swyddogol.[5]

Cyflwynwyd y mesur gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, ar 4 Mawrth 2010.[1]

  1. 1.0 1.1  Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 6 Awst, 2011.
  2.  Cymeradwyaeth Frenhinol i Fesur Cynulliad—Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) 2011. Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru (9 Chwefror, 2011). Adalwyd ar 6 Awst, 2011.
  3.  Y llywodraeth yn cyhoeddi mesur iaith newydd. BBC (4 Mawrth 2010). Adalwyd ar 5 Mawrth 2010.
  4. (Cymraeg) Newyddion - Meri Huws yw'r Comisiynydd Iaith newydd. BBC (5 Hydref 2011). Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2011.
  5.  Comisiynydd y Gymraeg yn dechrau ar ei gwaith ym mis Chwefror. BBC (1 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2011.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search