Moderniaeth

Hans Hofmann, The Gate, 1959–60, casgliad: Amgueddfa Solomon R. Guggenheim. Roedd Hofman yn adnabyddusfel athro ac fel arlunydd; roedd hefyd yn ddamcaniaethwr modern, y gyntaf yn yr Almaen lle'i maged ac yna yn yr UDA. Cyflwynodd foderniaeth yn y 1930au i genhedlaeth newydd o arlunwyr Americanaidd.[1]

Mudiad ddamcaniaethol ydy moderniaeth, sydd a'i wreiddiau'n ddwfn yn y byd gorllewinol: mewn cyfnod o newidiadau enfawr yn niwylliant a thawsnewidiad cymdeithas ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae'n fuduad sy'n cwmpasu'r celfyddydau, cerdd a diwylliant, yn ogystal â llenyddiaeth. Ymhlith y digwyddiadau pwysicaf sy'n gefndir i gychwyn moderniaeth mae diwydiannau enfawr ac ailwampio cymdeithas (Fictorianaidd yng ngwledydd Prydain) yn sylweddol e.e. datblygiadau sydyn dinasoedd drwy Ewrop, fel had unos, yn cael ei ddilyn gan y Rhyfel Byd Cyntaf a'i erchyllterau'n cael eu hadrodd ym mhapurau'r cyfnod. Er fod gwreiddiau moderniaeth yn ddwfn yn Ewrop, yn achos llenyddiaeth, chwaraewyd rhan bwysig hefyd gan nifer o awduron Eingl-Americanaidd.

Yn ei hanfod, dull celfyddydol o ymateb i fodernrwydd ydyw Moderniaeth. Yn hynny o beth gwahaniaethir rhwng modernrwydd, sef y cyflwr o fod yn fodern, neu fywyd modern yn ei wahanol agweddau, a Moderniaeth, sef yr ymateb celfyddydol i’r cyflwr hwn. Fel y dywed John Rowlands, ‘Nid yw bod yn gyfoes yr un peth â bod yn fodern... Nid ei fwrw’i hun yn egnïol i ganol llif cynhyrfus bywyd cyfoes a wna’r modernydd: buasai’r gwrthwyneb yn debycach o fod yn wir. Nid bod yn fodernistig yw bod yn fodern.’ Wedi dweud hyn, roedd elfennau o fewn Moderniaeth a oedd yn hynod awyddus i fabwysiadu dulliau technolegol newydd a ddaeth i fod ddechrau’r 20g, ac i bortreadu’r dechnoleg honno yn ogystal â’i hefelychu, boed beiriannau neu foduron neu sinema. Dau fudiad o’r fath a gysylltir yn agos â Moderniaeth yn Ewrop yw Futurismo, dan arweiniad F. T. Marinetti ac eraill, yn yr Eidal, a Vorticism a goleddid gan awduron fel Ezra Pound a Wyndham Lewis.[2] Dyma'r cyfnod pan fo yr Oes Oleuedig a chrefydd yn cael eu gwrthod gan fodernwyr blaenllaw.[3][4]

Pan ddywedodd y bardd Ezra Pound "Gwna fo'n newydd!" yn 1934, cyffyrddodd a chalon moderniaeth, ac wfftio diwylliant y gorffennol oedd un o brif nodweddion y mudiad. Yn yr ysbryd hwn, nodir y canlynol fel nodweddion (neu ddyfeisiadau newydd) moderniaeth: 'llif yr ymwybyddiaeth' (neu'r 'ymson mewnol') o fewn nofelau'r oes, digyweiredd a cherddoriaeth 12-tôn (dodecaffoni), peintiadau rhannol (dotiau ayb) a'r haniaethol (abstract) mewn celf gweledol, a'r rhain i gyd yn dechrau ymddangos yn y 19C.

  1. "Hans Hofmann biography. Adalwyd 30 Ionawr 2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-29. Cyrchwyd 2016-08-27.
  2. [https://wici.porth.ac.uk/index.php/Moderniaeth Esboniadur, y Porth, y Coleg Cymraeg. Nodir fod y gwaith hwn ar CC-BY-SA. Mae llawer o'r testun yn yr erthygl hon wedi'i drawsgrifio yma; awdur erthygl yr Esboniadur: Llŷr Gwyn Lewis. Adalwyd 27 Awst 2016.
  3. Pericles Lewis, Modernism, Nationalism, and the Novel (Cambridge University Press, 2000). tt 38–39.
  4. "[James] Joyce's Ulysses is a comedy not divine, ending, like Dante's, in the vision of a God whose will is our peace, but human all-too-human...." Peter Faulkner, Modernism (Taylor & Francis, 1990). t 60.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search