Moleciwl

Strwythr a dimensiynau moleciwl H2O (Dŵr)

Mewn Cemeg, moleciwl yw agregiad o ddau neu fwy o atomau mewn trefn pendant sydd wedi'u bondio'n gemegol. Nid yw sylweddau cemegol yn rhannu'n anfeidrol i mewn i ffracsiynau llai: mae moleciwl yn gyffredinol yn cael ei ysyried fel y gronyn lleiaf o sylwedd pur sy'n cadw ei gyfansoddiad a'i briodweddau cemegol.

Mewn gwyddoniaeth moleciwlaidd, ystyrir moleciwl fel endid digon sefydlog a niwtral sydd wedi ei gyfansoddi o ddau neu fwy o atomau. Defnyddir y cysyniad o foleciwl monatomig (un atom), fel y gwelir mewn nwyon nobl, bron yn gyfyngol yn theori cinetig nwyon, lle enwir gronynnau sylfaenol yn gonfensiynol yn "foleciwlau", er gwaethaf eu cyfansoddiad.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search