Moscfa

Moscfa
Mathprifddinas Rwsia, dinas ffederal o fewn Rwsia, dinas fawr, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, prifddinas, tref/dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Moscfa Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,455,682 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Unknown (cyn 1147) Edit this on Wikidata
AnthemMoya Moskva Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethSergey Sobyanin Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal Canol Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd2,562 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr156 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Moscfa, Afon Yauza, Vodootvodny Canal, Skhodnya Derivation Canal, Camlas Moscfa Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaOblast Moscfa, Oblast Kaluga Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.7558°N 37.6178°E Edit this on Wikidata
Cod post101001–135999 Edit this on Wikidata
RU-MOW Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolMaer Moscfa, Llywodraeth Moscfa Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholDuma Diinas Moscfa Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prime Minister of Moscow Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethSergey Sobyanin Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganYuri Dolgorukiy Edit this on Wikidata

Prifddinas Rwsia yw Moscfa ("Cymorth – Sain" ynganiad) ; hefyd: Mosco, neu Mosgo; Москвá, sef Moscfa yn Rwsieg). Mae tua 12,455,682 (1 Ionawr 2021)[1] o bobl yn byw yn y ddinas ei hun a 17,125,000 (2020)[2] o gynnwys yr ardal ehangach, fetropolitan (sef y Московская агломерация). Mae arwynebedd y ddinas yn 2,511 cilomedr sgwâr (970 metr sgwâr), tra bod yr ardal ddinesig yn gorchuddio 5,891 cilomedr sgwâr (2,275 metr sgwâr), a'r ardal fetropolitan dros 26,000 cilomedr sgwâr (10,000 metr sgwâr).[3][4]

Eglwys Gadeiriol Sant Basil, Moscfa

Lleolir y dref yn yr ardal ranbarthol a enwir Canol Rwsia sydd mewn gwirionedd yng ngorllewin Rwsia (y 'Rwsia Ewropeaidd'). Roedd hi'n brif ddinas yr Undeb Sofietaidd a hefyd o Muscvy y Rwsia cyn-ymerodraethol. Mae'r Kremlin sedd llywodraeth genedlaethol Rwsia a'r Sgwâr Coch wedi'u lleoli yn y ddinas.

Wedi'i sefydlu'n wreiddiol ym 1147, tyfodd Moscow i ddod yn ddinas lewyrchus a phwerus a wasanaethodd fel prifddinas y Ddugiaeth Fawr (y Grand Duchy yn Saesneg, neu'r Muscovite Rus' yn Rwsieg) sy'n dwyn ei henw. Pan esblygodd Dugiaeth Fawr Moscow i Tsariaeth Rwsia[5], roedd Moscow yn dal i fod yn ganolfan wleidyddol ac economaidd ar gyfer y rhan fwyaf o'i chyfnod fel Tsariaeth. Pan ddiwygiwyd y Tsariaeth yn Ymerodraeth Rwsia rhwng 1721 a 1917, symudwyd y brifddinas o Moscfa i St Petersburg, gan leihau dylanwad y ddinas. Yna symudwyd y brifddinas yn ôl i Moscfa yn dilyn Chwyldro Rwsia yn 1917 a daethpwyd â'r ddinas yn ôl fel canolfan wleidyddol yr SFSR (sef y Rossiyskaya Sovetskaya Federativnaya Sotsialisticheskaya Respublika) a'r Undeb Sofietaidd. Yn dilyn diddymiad yr Undeb Sofietaidd yn 1991, arhosodd Moscfa fel prif ddinas Ffederasiwn Rwsia.

Mae gan Moscfa un o economïau trefol mwya'r byd, ac mae'n un o'r dinasoedd drutaf yn y byd i fyw ynddi. Mae'r ddinas yn un o'r cyrchfannau twristaidd sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, ac mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn Ewrop. Moscfa yw'r drydedd dinas sydd a'r mwyaf o biliwnyddion yn y byd, ac mae ganddi mwy o biliwnyddion nag unrhyw ddinas yn Ewrop.[6][7] Mae Canolfan Fusnes Ryngwladol Moscow yn un o'r canolfannau ariannol mwyaf yn y byd, ac mae'n cynnwys rhai o skyscrapers talaf Ewrop. Dyma hefyd ddinas orau'r byd am ei gwasanaethau digidol,[8] cyhoeddus a'r gwasanaethau e-lywodraeth orau'n y byd.[9] Moscow oedd dinas letyol Gemau Olympaidd yr Haf 1980, ac roedd hefyd yn un o'r dinasoedd a gynhaliodd gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018.[10]

Mae'r ddinas yn gartref i sawl Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae'n adnabyddus am ei phensaernïaeth nodedig, yn enwedig ei Sgwâr Coch hanesyddol, ac adeiladau fel Eglwys Gadeiriol Sant Basil ac adeilad Kremlin Moscfa sef sedd Llywodraeth Rwsia. Mae Moscow yn gartref i lawer o gwmnïau Rwsiaidd mewn nifer o ddiwydiannau, sy'n cael ei wasanaethu gan rwydwaith cynhwysfawr o drafnidiaeth a phedwar maes awyr rhyngwladol, naw terfynfa reilffordd, system tramiau, system monorail, ac yn fwyaf arbennig Metro Moscow, y system metro brysuraf yn Ewrop, ac un o'r systemau cludo cyflym mwyaf yn y byd. Mae gan y ddinas dros 40 y cant o'i thiriogaeth wedi'i gorchuddio â gwyrddni, sy'n golygu ei bod yn un o'r dinasoedd gwyrddaf yn Ewrop a'r byd.[4][11]

  1. https://www.citypopulation.de/en/russia/cities/. dyddiad cyrchiad: 27 Medi 2022.
  2. http://www.demographia.com/db-worldua.pdf.
  3. Alexander Akishin (17 Awst 2017). "A 3-Hour Commute: A Close Look At Moscow The Megapolis". Strelka Mag. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 23 Mai 2020.
  4. 4.0 4.1 "Moscow, a City Undergoing Transformation". Planète Énergies. 11 Medi 2017. Cyrchwyd 27 Mai 2020.
  5. Geiriadur yr Academi; adalwyd 24 Mawrth 2021
  6. Gweler: MasterCard Global Destination Cities Index.
  7. Giacomo Tognini. "World's Richest Cities: The Top 10 Cities Billionaires Call Home". Forbes. Cyrchwyd 25 Mai 2020.
  8. Arseny Kalashnikoff (July 5, 2018). "Moscow tops European ranking in digital innovation". Russia Beyond. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2020.
  9. "United Nations E-Government Survey 2018" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 5 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2020.
  10. "FIFA World Cup kicks off in Russia". The New Indian Express. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-02. Cyrchwyd 2021-03-20.
  11. "Moscow parks". Bridge To Moscow. Cyrchwyd 27 Mai 2020.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search