Mudiad iaith

Mudiad, cymdeithas neu grŵp o bobl a sefydlwyd gyda'r prif fwriad o warchod a hyrwyddo iaith neilltuol a'i diwylliant yw mudiad iaith. Gan amlaf maent yn ceisio amddiffyn ieithoedd lleiafrifol sydd dan fygythiad gan ieithoedd a diwylliannau mwy. Mae rhai mudiadau yn gweithredu'n wleidyddol trwy ymgyrchoedd a phrotestiadau tra bod eraill yn canolbwyntio ar weithgareddau diwyllianol, e.e. ym myd addysg.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search