Neidr

Mae nadroedd yn ymlusgiaid cigysol hir a chul o fewn urdd y Serpentes (enw Lladin).[1] Fel pob cenogydd arall, mae nadroedd yn fertebratau ectothermig, ac yn amniot wedi'u gorchuddio â chen sy'n gorgyffwrdd. Mae gan lawer o rywogaethau o nadroedd benglogau â llawer mwy o gymalau na'u hynafiaid y madfall, sy'n eu galluogi i lyncu ysglyfaeth llawer mwy na'u pennau. Er mwyn darparu ar gyfer eu cyrff cul, mae organau pâr nadroedd (fel arennau) yn ymddangos un o flaen y llall yn hytrach nag ochr yn ochr, a dim ond un ysgyfaint sydd gan y mwyafrif. Mae rhai rhywogaethau wregys pelfig gyda phâr o grafangau ar y naill ochr i'r cloga sef y pen ôl. Mae madfall wedi esblygu cyrff hirfain di-goes na braich, a choesau llawer llai trwy esblygiad cydgyfeiriol, gan arwain at lawer o linachau o fadfallod heb goesau.[2] Mae'r rhain yn debyg i nadroedd, ond mae gan nifer o grwpiau cyffredin o fadfallod di-goes amrannau a chlustiau allanol, nad oes gan nadroedd ar y cyfan.

Mae nadroedd byw i'w cael ar bob cyfandir ac eithrio Antarctica, ac ar y rhan fwyaf o diroedd llai; mae eithriadau'n cynnwys rhai ynysoedd mawr, megis Iwerddon, Gwlad yr Iâ, yr Ynys Las, archipelago Hawaii, ac ynysoedd Seland Newydd, yn ogystal â llawer o ynysoedd bach Iwerydd a chefnforoedd canol y Môr Tawel[3] Yn ogystal a nadroedd tirol, mae nadroedd y môr yn gyffredin ledled cefnforoedd India a'r Môr Tawel. Ceir mwy nag ugain o deuluoedd sy'n cael eu cydnabod ar hyn o bryd, ac sy'n cynnwys tua 520 genw a thua 3,900 o rywogaethau.[4] Maent yn amrywio o ran maint o 10.4 centimetr fel neidr-edafedd Barbados (Tetracheilostoma carlae) i 12.8 metr ee y peithon.[5][6] Roedd y rhywogaeth ffosil Titanoboa cerrejonensis yn 12.8 metre (42 ft) hyd.[7] Credir bod nadroedd wedi esblygu o naill ai madfallod a arbenigai mewn tyllu neu fadfallod dyfrol, efallai yn ystod y cyfnod Jwrasig, gyda'r ffosilau cynharaf y gwyddys amdanynt i'w cael rhwng143 miliwn o flynyddoedd CP a 167 miliwn CP.[8][9]

Ymddangosodd amrywiaeth nadroedd modern yn ystod yr epoc Paleosenaidd (c. 66 i 56 Ma yn ôl, hynny yw, ar ôl y digwyddiad difodiant Cretasaidd-Paleogenaidd). Mae'r disgrifiadau hynaf a gofnodwyd o nadroedd i'w cael yn y Brooklyn Papyrus.

Nid yw'r rhan fwyaf o rywogaethau o neidr yn wenwynig ac mae'r rhai sydd â gwenwyn yn ei ddefnyddio'n bennaf i ladd a darostwng ysglyfaeth yn hytrach nag ar gyfer hunanamddiffyn. Mae gan rai wenwyn sy'n ddigon cryf i achosi anaf poenus neu farwolaeth i bobl. Mae nadroedd diwenwyn naill ai'n llyncu ysglyfaeth yn fyw neu'n lladd trwy gyfyngiad.

  1. "Integrated analyses resolve conflicts over squamate reptile phylogeny and reveal unexpected placements for fossil taxa". PLOS ONE 10 (3): e0118199. 2015. Bibcode 2015PLoSO..1018199R. doi:10.1371/journal.pone.0118199. PMC 4372529. PMID 25803280. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4372529.
  2. "Why does a trait evolve multiple times within a clade? Repeated evolution of snakelike body form in squamate reptiles". Evolution; International Journal of Organic Evolution 60 (1): 123–41. January 2006. doi:10.1554/05-328.1. PMID 16568638.
  3. Roland Bauchot, gol. (1994). Snakes: A Natural History. New York: Sterling Publishing Co., Inc. t. 220. ISBN 978-1-4027-3181-5.
  4. "Search results for Higher taxa: snake". reptile-database.org. Cyrchwyd 7 March 2021.
  5. Hedges, S. Blair (August 4, 2008). "At the lower size limit in snakes: two new species of threadsnakes (Squamata: Leptotyphlopidae: Leptotyphlops) from the Lesser Antilles". Zootaxa 1841: 1–30. doi:10.11646/zootaxa.1841.1.1. http://www.mapress.com/zootaxa/2008/f/zt01841p030.pdf. Adalwyd 2008-08-04.
  6. Fredriksson, G. M. (2005). "Predation on Sun Bears by Reticulated Python in East Kalimantan, Indonesian Borneo". Raffles Bulletin of Zoology 53 (1): 165–168. http://dare.uva.nl/document/161117.
  7. "Giant boid snake from the Palaeocene neotropics reveals hotter past equatorial temperatures". Nature 457 (7230): 715–7. February 2009. arXiv:6. Bibcode 2009Natur.457..715H. doi:10.1038/nature07671. PMID 19194448.
  8. Perkins, Sid (27 January 2015). "Fossils of oldest known snakes unearthed". news.sciencemag.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 January 2015. Cyrchwyd 29 January 2015.
  9. "The oldest known snakes from the Middle Jurassic-Lower Cretaceous provide insights on snake evolution". Nature Communications 6: 5996. January 2015. Bibcode 2015NatCo...6.5996C. doi:10.1038/ncomms6996. PMID 25625704.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search