Neo-glasuriaeth

Neo-glasuriaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, arddull, arddull mewn celf Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1760 Edit this on Wikidata
Daeth i ben1830 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganRhamantiaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mudiad i adfer clasuriaeth yn y celfyddydau a flodeuai yn Ewrop o ganol y 18g i ganol y 19g oedd neo-glasuriaeth[1] neu newydd-glasuriaeth.[2] Ymgododd fel adwaith yn erbyn addurnedd a lliwgarwch y dulliau Baróc a rococo. Daeth ei ysbrydoliaeth o gelf a phensaernïaeth glasurol y Groegiaid a'r Rhufeiniaid. Nod y neo-glasurwyr oedd i adfer egwyddorion ac estheteg y gwareiddiad Groegaidd-Rufeinig mewn cyd-destun modern. Daeth i ddominyddu arluniaeth, cerfluniaeth, pensaernïaeth, a chelfyddydau addurnol Ewrop, yn enwedig Ffrainc, yr Eidal, Lloegr, a'r Almaen, am ryw can mlynedd. Lledaenodd hefyd i Unol Daleithiau America, yn enwedig ym maes pensaernïaeth.

Cafodd neo-glasuriaeth ei seilio ar fodelau ac egwyddorion clasurol, yn enwedig rheswm a threfn, ac yn groes felly i ormodedd yr hen ddulliau a fu mor boblogaidd yn y cyfnod modern cynnar. Nodweddir celf neo-glasurol gan arddull eglur a syml, gyda phwyslais ar themâu a phynciau clasurol megis mytholeg, hanes, a llenyddiaeth. Mae'n cynnwys llinellau meinion, siapiau geometrig, a synnwyr o gydbwysedd a chytgord, yn ogystal â blaenoriaethu realaeth ac eglurder yn hytrach na mynegiant emosiynol neu addurniad.

Yn y celfyddydau addurnol, cadwai'r dull neo-glasurol rywfaint o ddestlusrwydd y rococo, ond disodlwyd yr hen grymeddau gwylltion gan linellau syth. Ymddengys manylion clasurol megis garlantau ac yrnau mewn sawl cyfrwng a defnydd. Cynhyrchwyd dodrefn neo-glasurol yn fach ac yn syml, yn aml ag ymylon euraid, a sidanau a phorslen o arlliwiau golau. Mae cyfnod cynnar neo-glasuriaeth yn Ffrainc yn gyfystyr ag "arddull Louis XVI".

Nodweddir pensaernïaeth neo-glasurol gan elfennau clasurol megis colofnau, talogau, a ffrisiau, a dyluniadau cymesur a chydffurf. Yn Lloegr, cyflwynwyd ffurfiau Groegaidd a Rhufeinig i blastai gwledig gan y pensaer Robert Adam.

  1.  neoglasuriaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Mai 2023.
  2. Geiriadur yr Academi, "neo-".

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search