Neville Chamberlain

Neville Chamberlain
GanwydArthur Neville Chamberlain Edit this on Wikidata
18 Mawrth 1869 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw9 Tachwedd 1940 Edit this on Wikidata
o canser colorectaidd Edit this on Wikidata
Reading Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Lywydd y Cyngor, Canghellor y Trysorlys, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Blaid Geidwadol, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Lord Mayor of Birmingham, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, Arweinydd y Tŷ Cyffredin Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJoseph Chamberlain Edit this on Wikidata
MamFlorence Kenrick Edit this on Wikidata
PriodAnne Chamberlain Edit this on Wikidata
PlantDorothy Chamberlain, Francis Chamberlain Edit this on Wikidata
PerthnasauGeorge Hamilton Kenrick Edit this on Wikidata
llofnod
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Dirwasgiad a Rhyfel
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Maes y Gad i Les y Wlad
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Gwleidydd Seisnig a fu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig o 1937 hyd 1940 oedd Arthur Neville Chamberlain (18 Mawrth 18699 Tachwedd 1940). Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol. Bu’n aelod o Lywodraeth Glymblaid David Lloyd George adeg y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn nes ymlaen, ymhlith swyddi eraill yn ei yrfa gwleidyddol, bu’n Weinidog Iechyd ac yn Ganghellor y Trysorlys. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng Nghynhadledd München.[1]

Wrth weld Ewrop yn cael ei harwain tuag at ail ryfel byd oherwydd bygythiad Natsïaeth ceisiodd Chamberlain gyfaddawdu a chwrdd â gofynion cynyddol Hitler am ragor o dir a phŵer. Roedd yn gwneud hyn er mwyn ceisio osgoi rhyfel arall. Enw’r polisi yma oedd ‘dyhuddo’. Yn 1938 unodd Hitler Awstria gyda’r Almaen yn yr ‘Anschluss’ a meddiannu Tir y Swdeten (rhan o Tsiecoslofacia) er mwyn creu un Almaen fawr Almaeneg ei hiaith. Ym Medi 1938 llofnododd Chamberlain Gytundeb Munich gyda Hitler er mwyn ceisio osgoi rhyfel ond ofer fu ei ymdrech. Wedi i’r Almaen oresgyn Gwlad Pwyl ar Fedi’r 1af 1939, gorfodwyd Chamberlain i gydnabod ei fod wedi methu rhwystro Hitler. Chamberlain oedd Prif Weinidog Prydain pan gyhoeddodd y wlad ryfel ar yr Almaen ar Medi’r 3ydd, 1939. Prin flwyddyn wedi cychwyn y rhyfel ymddiswyddodd Chamberlain fel Prif Weinidog a throsglwyddwyd awenau pŵer i Winston Churchill fel arweinydd y Llywodraeth newydd.[2]  

  1. "Joseph Chamberlain | British politician and social reformer". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-21.
  2. "Dirwasgiad a Rhyfel" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 21 Mai 2020.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search