Newidyn

Mewn mathemateg elfennol, mae newidyn yn symbol, (llythyren yr wyddor, fel arfer) sy'n cynrychioli rhif o'r enw 'gwerth y newidyn', sydd yn rhif mympwyol (arbitrary) heb ei bennu'n llawn, neu'n anhysbys. Mae cyfrifo algebraidd gyda newidynnau fel pe baent yn rhifau penodol yn caniatáu i ni ddatrys ystod o broblemau mewn un cyfrifiad. Enghraifft nodweddiadol yw'r fformiwla cwadratig, sy'n caniatáu i ni ddatrys pob hafaliad cwadratig trwy amnewid dim ond gwerthoedd rhifol cyfernodau'r hafaliad a roddir i'r newidynnau sy'n eu cynrychioli. Y term cyferbyniol iddo yw cysonyn.

Mae'r cysyniad o newidyn hefyd yn hanfodol mewn calcwlws. Er enghraifft, mae'r ffwythiant y = f(x) yn cynnwys dau newidyn, y a x, sy'n cynrychioli gwerth ac ymresymiad y ffwythiant yn y drefn honno.

Mewn mathemateg pellach, mae newidyn yn symbol sy'n dynodi gwrthrych mathemategol, a all fod yn nifer, yn fector, yn fatrics, neu hyd yn oed yn ffwythiant. Yn yr achos hwn, ni chedwir yr elfen wreiddiol o "newid" yn y newidyn - ac eithrio, weithiau, pan geir esboniadau anffurfiol. Ac felly hefyd mewn cyfrifiadureg, lle mae newidyn yn enw (llythyren o'r wyddor, neu air, fel arfer) sy'n cynrychioli rhywfaint o werth a a gedwir o fewn cof y cyfrifiadur. Mewn rhesymeg fathemategol, mae newidyn naill ai'n symbol sy'n cynrychioli term anhysbys o'r theori, neu'n rhan sylfaenol o'r theori.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search