Nigel Shadbolt | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 9 Ebrill 1956 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwyddonydd cyfrifiadurol, prifathro, academydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Fellow of the Royal Academy of Engineering, Fellow of the British Computer Society, Marchog Faglor ![]() |
Gwefan | https://www.cs.ox.ac.uk/people/nigel.shadbolt ![]() |
Athro Deallusrwydd Artiffisial a phennaeth Grŵp Gwyddor y We a'r Rhyngrwydd ym Mhrifysgol Southampton yw Syr Nigel Richard Shadbolt FREng CEng CITP FBCS CPsychol (ganwyd 9 Ebrill 1956)[1]. Ef yw cadeirydd y Sefydliad Data Agored a gyd-sefydlodd gyda Syr Tim Berners-Lee.[2] O fis Awst 2015, bydd e'n cymryd swydd Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen.
Mae Shadbolt yn ymchwilydd rhyngddisgyblaethol, yn arbenigwr polisi, ac yn sylwebydd. Mae wedi astudio ac wedi ymchwilio ym meysydd Seicoleg, Gwyddor Gwybyddol, Niwrowyddoniaeth Cyfriannol, Deallusrwydd Artiffisial, Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol, a maes newydd Gwyddor y We.[3] Mae wedi cyfrannu'n sylweddol at bob un o'r disgyblaethau hyn.[4] Craidd y cyfan o'i waith yw ei ddymuniad i ddeall sut mae ymddygiad deallus yn ymgorffori ac yn ymddangos mewn bodau dynol, peiriannau, ac yn fwyaf ddiweddar ar y We.[5]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw whoswho
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search