Delwedd:Nucleus drawing.svg, Atom (PSF).png | |
Enghraifft o: | math o ronyn cwantwm ![]() |
---|---|
Math | cyflwr rhwym, gronyn wedi'i wefru, matter composed of quarks ![]() |
Y gwrthwyneb | plisgyn yr electron ![]() |
Rhan o | atom ![]() |
Yn cynnwys | nucleon ![]() |
![]() |
Rhan canol a dwys o'r atom ydy'r niwclews atomig (neu'r cnewyllyn atomig) ac sy'n cynnwys protonau a niwtronau. Bron y gellir dweud fod holl fas yr atom yn y niwclews hwn, gydag ychydig bychan iawn o fas yn dod o'r electronau sy'n cylchdroi o'i gwmpas. Cafodd ei ddarganfod yn 1911 fel canlyniad i waith Ernest Rutherford yn dadansoddi arbrawf a wnaeth ef gyda chymorth Hans Geiger ac Ernest Marsden cyn hynny: yn 1909.
Mae diamedr y niwclews yn amrywio yn ei faint o 1.6 fm (10−15 m) (ar gyfer proton o hydrogen ysgafn) i tua 15 fm (ar gyfer yr atomau trymaf megis wraniwm). Mae'r meintiau'n lawer llai na maint cyfan yr atom, o gymhareb o 23,000 (wraniwm) i tua 145,000 (hydrogen). Mae bron holl fàs yr atom yn cael ei greu gan brotonau a niwtronau yn y niwclews, gyda chyfraniad bach iawn gan yr electronau sy'n ei gylchu.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search